fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Toesenni Teisen Gaws wedi’u coginio gan Calum Pickard, Prif Gogydd The Secret Beach Bar & Kitchen

Cynhwysion – Digon i 4 person

Cytew Toesenni

  • 2 ŵy
  • 200g o flawd codi
  • 284ml o laeth enwyn
  • 5g o soda pobi
  • 5g o bowdr codi
  • 50g o siwgr mân

Am weld sut maen nhw’n coginio? Gwyliwch y fideo llawn o’r pen-cogydd Calum yn gwneud y saig flasus hon!

Teisen Gaws

  • 200g o gaws hufen meddal
  • 200g o gaws mascarpone
  • 50g o siwgr mân
  • 100ml o hufen dwbl
  • 50ml o wirodlyn hufen Cymreig

Garnais

  • Mintys ffres
  • Ceirios Kirsch
  • Pice ar y maen
  • Surop gwirodlyn hufen (50ml o wirodlyn, 50g o siwgr – tewychwch y cymysgedd mewn sosban fach nes ei fod yn ludiog)
  • 25g o siwgr mân

Y dull coginio

Toesenni

  • Cymysgwch yr wyau, y llaeth enwyn a’r siwgr.  Ychwanegwch y blawd, y powdr codi a’r soda pobi a  chymysgwch y cyfan nes ei fod wedi’i gyfuno’n dda. Ni ddylai’r cytew fod yn rhy denau felly os yw’n rhy wlyb, ychwanegwch ragor o flawd.

Teisen Gaws

  • Chwisgiwch y caws hufen, y caws mascarpone, y siwgr a’r gwirodlyn hufen nes bod y cymysgedd yn llyfn.

Ffrio’r Toesenni

  • Defnyddiwch beiriant ffrio neu llenwch hanner sosban gydag olew llysiau a’i gynhesu i 180c
  • Tynnwch y sosban oddi ar y gwres pan fydd yn cyrraedd y tymheredd hwnnw, a gollyngwch y cytew i mewn iddo
  • Gan ddefnyddio llwy fwrdd, gosodwch bum llwy fwrdd o gytew i mewn i’r olew cynnes, sicrhewch eich bod yn eu troi’n gyson fel eu bod yn coginio’n drylwyr a bod ganddynt liw cyson
  • Tynnwch y toesenni o’r olew a’u rhoi ar ddarn o bapur cegin i sychu unrhyw olew gormodol
  • Rholiwch y toesenni yn y garnais siwgr i’w gorffen

Gweini

  • Taenwch lwyaid hael o’r cymysgedd teisen gaws ar eich plât
  • Gosodwch eich toesenni ar y plât
  • Defnyddiwch y ceirios kirsch, y pice ar y maen wedi’u briwsioni, y mintys ffres, y surop gwirodlyn hufen ac ychydig o siwgr mân fel garnais.

A dyna ni! Diolch arbennig i’r Pen-cogydd Calum a The Secret Bar and Kitchen – Dydd Gŵyl Dewi hapus!

Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!