fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | February 14, 2020

Bydd gŵyl Abertawe sy’n dathlu popeth Cymreig, Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, yn cyflwyno llawer o flasau yn ystod penwythnos ar ddiwedd mis Chwefror.

Os ydych yn bwriadu ymweld â’r digwyddiad deuddydd a gynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth, gallwch ddisgwyl mwynhau cyfres o arddangosiadau coginio cyffrous a fydd yn codi chwant bwyd arnoch.

I ddechrau, Dirty Vegan Matt Pritchard…

Ddydd Sadwrn bydd Matt Pritchard, o’r rhaglen ‘Dirty Vegan’, yn rhannu ei awch am fwydydd blasus a wnaed o blanhigion sy’n blasu’n “BANGING!”. Mae cyn-arweinydd Dirty Sanchez MTV bellach yn ben-cogydd feganaidd ac yn athletwr o fri sy’n dwlu ar ddangos pa mor hyfryd, maethlon a hawdd yw coginio bwyd feganaidd drwy ei raglen deledu ar y BBC, Dirty Vegan, a’i lyfr coginio.

Mae gan Matt frwdfrydedd go iawn dros fywyd, sy’n seiliedig ar fwyd da a chyflawniadau chwaraeon gwych. Mae’n credu mewn dathlu seigiau blasus, lliwgar a ffres a wnaed o blanhigion sy’n hawdd i’w coginio gartref. Nid yw’n syndod felly bod ei lyfr coginio, Dirty Vegan, yn unig o lyfrau mwyaf poblogaidd Amazon.

Bydd Matt yn cyflwyno ei arddull Dirty Vegan o goginio yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso ddydd Sadwrn 29 Chwefror. Bydd e’n coginio yn y Babell Fwyd am 1pm cyn sesiwn holi ac ateb am 2pm ym Marchnad Abertawe lle bydd Matt hefyd ar gael i lofnodi copïau o’i lyfr.

Prif gwrs, Jean-Christophe Novelli…

Heb os nac oni bai, y prif atyniad ddydd Sul fydd Jean-Christophe Novelli, y pen-cogydd arobryn sydd wedi ennill sawl seren Michelin.

Bydd Jean-Christophe Novelli, hoff ben-cogydd Ffrengig y wlad, yn coginio gyda pheth o gynnyrch gorau Cymru yng nghegin Croeso am 12pm a 2pm.

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Ŵyl Bwyd a Diod Croeso Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi. Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych i’r holl deulu.” meddai Jean-Christophe.

Daeth Jean-Christophe i Brydain ym 1983, a bu’n gweithio mewn sawl sefydliad i ddechrau cyn iddo gymryd cyfrifoldeb am dafarn Keith Floyd, The Malsters. Fel prif-gogydd yn Gordleton Mill, Lymington, enillodd ei ddwy seren Michelin cyntaf cyn mynd i weithio yn y gegin yng ngwesty’r Four Seasons yn Hyde Park Corner.

Ym 1996, agorodd Jean-Christophe bedwar bwyty yn Llundain, Ffrainc a de Affrica ac felly sefydlodd ei deyrnas fach ryngwladol. £500 yn unig oedd ganddo yn ei boced wrth ddechrau ar ei antur.

Erbyn hyn mae Jean-Christophe yn arwain ei ysgol goginio ei hun, sef Jean-Christophe Novelli Academy, lle mae’n gwahodd pobl i ymuno ag ef ar gyfer cyfres o ddosbarthiadau meistr, gan rannu ei dechnegau, ei wybodaeth am gynhwysion a’i frwdfrydedd am fwyd blasus.

Pan nad yw yng nghegin yr academi, mae Jean-Christophe yn teithio ar hyd y wlad yn arddangos ei ddoniau coginio mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau corfforaethol, yn rhannu ryseitiau ac yn helpu eraill i’w ysbrydoli i goginio gan ddefnyddio cynhwysion ffres a lleol.

Peidiwch â cholli Jean-Christophe yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso! Bydd yn rhannu ei ryseitiau, cyfrinachau’r grefft a’i gariad at goginio ddydd Sul 1 Mawrth am 12pm a 2pm.

Os ydych am weld rhagor o goginio…

Bydd y bobl ganlynol hefyd yn ymuno â Jean-Christophe Novelli a’r Dirty Vegan, Matt Pritchard, yng nghegin Croeso i ddangos i chi sut i goginio seigiau blasus gan ddefnyddio cynnyrch lleol a ffres:

Imran Nathoo, cystadleuydd rownd gogynderfynol MasterChef 2017

Ers cyrraedd y rownd gogynderfynol ar MasterChef yn 2017, mae Imran Nathoo wedi coginio mewn gwyliau bwyd ledled y wlad ac rydym yn falch o’i groesawu i Abertawe ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Croeso eleni.

Ac yntau’n ddeintydd ac yn dad, mae’n wyrth bod gan Imran yr amser i goginio, cynnal clybiau swper yng Nghaerdydd ac arddangos ei dalent goginio mewn digwyddiadau bwyd ledled y DU, gan gynnwys marchnad enwog Borough, Sioe Frenhinol Cymru a’r Fenni.

Mae gan Imran gariad mawr at fwyd a choginio. Fe ddylanwadwyd ar arddull ei fwyd gan fwyd Gwjarati yr oedd yn ei fwyta pan oedd yn blentyn, ond mae’n parhau i ddatblygu wrth iddo geisio creu argraff ar y byd bwyd yng Nghymru, gan gyfrannu’n rheolaidd at raglenni ar BBC Radio Wales.

Gallwch gael y diweddaraf am anturiaethau coginio Imran trwy ddarllen ei flog, Kitchen Clonc (mae ‘Clonc’ yn air llafar sy’n golygu sgwrs yn Gymraeg), lle mae’n cofnodi ei brofiadau ym myd bwyd yn ogystal â ryseitiau ac adolygiadau bwytai.

Bydd Imran yn cyflwyno’i fwyd unigryw yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso ddydd Sadwrn 29 Chwefror am 3pm.

Katie Davies, cystadleuydd rownd gogynderfynol Best Home Cook y BBC yn 2018

Katie Davies yw un o gystadleuwyr gogynderfynol Best Home Cook BBC, ac mae’n edrych ymlaen at rannu ei chariad at goginio i’r teulu â phobl Abertawe yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso eleni.

Katie oedd yr unig gystadleuydd o Gymru yng nghyfres 2018 cystadleuaeth coginio cartref y BBC, Best Home Cook, a oedd yn cynnwys Mary Berry, ac achubodd ar y cyfle i hyrwyddo Cymru a’i chynnyrch bendigedig ar y rhaglen.

Mae Katie’n fam brysur i bedwar o blant ac yn driniwr galwadau 999 i Heddlu De Cymru, felly mae’n anhygoel bod gan Katie’r amser i goginio drosti hi ei hun, heb sôn am goginio o flaen cynulleidfa. Fodd bynnag, ers y rhaglen mae wedi arddangos ei brwdfrydedd dros goginio cartref mewn nifer o wyliau bwyd, gan rannu ryseitiau addas ar gyfer teuluoedd ifanc prysur.

Mae Katie’n hanu o Gastell-nedd ac yn siopa ym Marchnad Abertawe’n rheolaidd. Does dim rhaid iddi deithio’n bell ar gyfer ei harddangosiad coginio yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso Abertawe. Gallwch wylio arddangosiad Katie ddydd Sul 1 Mawrth am 1pm.

Yn y cyfamser, cymerwch gip ar rai o’r ryseitiau sydd ar ei gwefan www.katiehomecook.com.

Iawn, rydym ychydig yn unllygeidiog, ond rydym yn dwlu ar ei Phastai Pen-clawdd!

Michelle Evans-Fecci, cystadleuydd Great British Bake Off 2019

Ar eich marciau… barod… pobwch! Bydd Michelle Evans-Fecci, cystadleuydd ar Great British Bake Off 2019 Channel 4 a enillodd pobydd yr wythnos, yn gwisgo’i ffedog ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Croeso.

Fel llawer o bobl eraill, mae hoffter Michelle o bobi’n deillio o’i phlentyndod yn gwylio ei mam yn pobi gartref. Wrth dyfu i fyny ar fferm, mae cynnyrch lleol ffres yn bwysig i Michelle.

Mae Michelle yn pobi bron bob yn eilddydd ac mae’n dwlu arbrofi â chyfuniadau blas, gan wneud defnydd da o gynnyrch tymhorol o’i gardd lysiau ei hun.

Cofiwch am arddangosiad pobi Michelle yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso, yng nghanol dinas Abertawe, ddydd Sadwrn 29 Chwefror am 2pm.

Yn y cyfamser, cymerwch gip ar Michelle yn pobi bisgedi…

Siân Day a Rob Bowen, cystadleuwyr rownd gynderfynol My Kitchen Rules ar ITV

Bydd Siân Day a Rob Bowen, sydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar My Kitchen Rules ITV, yn cydweithio unwaith eto i gyflwyno arddangosiad coginio a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd yng Ngŵyl Bwyd a Diod Croeso Abertawe.

Photo of chef Sian Day at Croeso Swansea

Bydd darllenwyr cylchgrawn Swansea Life yn gyfarwydd iawn â bwyd Siân Day, ond mae’r ysgrifennwr bwyd hefyd wedi ymddangos ar y teledu, ac nid gyda Rob Bowen ar My Kitchen Rules yn unig. Mae Siân hefyd wedi coginio ar Food Glorious Food ITV, gan greu argraff ar Lloyd Grossman a Tom Parker Bowles gyda’i defnydd o gynhwysion tymhorol lleol. Mae ei neiniau a’i theidiau wedi ysbrydoli’i choginio. Aeth ati i goginio rysáit ei thad-cu ar gyfer ffefryn y Cymry, cawl (potes cig oen), ar Food Glorious Food. Mae Siân yn arddangos yn rheolaidd mewn gwyliau bwyd lleol, gan rannu ei brwdfrydedd dros brydau cartref maethlon

Wrth dyfu i fyny yng nghegin ac yn siop groser y teulu, mae bwyd Rob Bowen wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y cartref a’r gymuned leol. Yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol My Kitchen Rules gyda Siân, ymddangosodd Rob ar Taste the Nation ITV. Mae’n mynd i wyliau bwyd lleol yn rheolaidd, gan arddangos ei sgiliau coginio a rhannu ei anturiaethau bwyd.

Methu aros tan Ŵyl Croeso i weld Siân a Rob yn coginio? Cymerwch gip ar y fideo hwn lle maen nhw’n coginio cyri pysgod thai coch a phwdin crème fraiche mafon.

Nerys Howell, Ymgynghoriaeth Bwyd Howell ac awdur Wales on a Plate

Bydd Nerys Howell, sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C, yn cyflwyno Cymru ar blat yng nghegin Croeso ddydd Sadwrn 29 Chwefror.

Mae hi wedi cyflwyno ac arddangos eitemau bwyd a diod â thema am bron 20 mlynedd ar raglenni megis Heno, Prynhawn Da, Casa Dudley, Pryd o Dafod, Byw yn ôl y Papur Newydd ac Y Plas ac felly mae Nerys yn hen gyfarwydd â dangos i bobl sut i gael y gorau o gynnyrch Cymreig.

Hi yw awdur Wales on a Plate, sy’n dod â thraddodiadau, ffyrdd o fyw a choginio Cymreig yn fyw, wedi’u cyfuno â ryseitiau mwy cyfoes Nerys, sy’n seiliedig ar gynnyrch Cymreig. Gallwch weld Nerys yn coginio yng nghegin Croeso am 11am ddydd Sadwrn 29 Chwefror.

Helen Wilson, pen-cogydd feganaidd ac ymgynghorydd Great Green Kitchen

Mae Helen Wilson, pen-cogydd bwyd a wnaed o blanhigion, wedi treulio’r 12 mlynedd diwethaf yn hyrwyddo bwyd a wnaed o blanhigion, yn addysgu pobl amdano ac yn ei greu, ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at Ŵyl Bwyd a Diod Croeso.

Bydd Helen, sydd wedi cyflwyno nifer o sgyrsiau ac arddangosiadau coginio ar draws y DU wrth weithio i elusen feganaidd, Viva!, yng nghegin Croeso ym Marchnad Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror am 11.15am.

Roedd Helen yn ben-cogydd yng nghaffi feganaidd cyntaf Abertawe, Urban Zen, ac mae ei ryseitiau wedi’u cynnwys mewn llawer o’r prif gylchgronau, llyfrau a gwefannau bwyd. Ar hyn o bryd mae hi’n paratoi ar gyfer agor y drysau i’w bar coffi feganaidd ei hun ym Mrynmill.