fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | February 20, 2020

Bydd! Clywir sain, cerdd a chân ar hyd Bae Abertawe y Dydd Gŵyl Dewi hwn wrth i'r Ŵyl Croeso flynyddol ddychwelyd i Gymru unwaith eto.

Bydd ein Gŵyl Croeso ddeuddydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi a phopeth Cymreig ac fe’i cynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth – bydd cyfoeth o bobl leol ddawnus sy’n sicr o’ch diddanu.

Byddwch am fynd ar eich union i Sgwâr y Castell os ydych yn un sy’n dwlu ar gerddoriaeth fyw. Bydd rhestr wych o gerddorion lleol yn perfformio ar y llwyfan.

Côr Tŷ Tawe

Ni allwch ddathlu Dydd Gŵyl Dewi heb o leiaf un côr. Bydd Côr Tŷ Tawe’n perfformio ar lwyfan Croeso am 12.30pm ddydd Sadwrn. Sefydlwyd y côr cymysg hwn yn Abertawe ym 1990 fel côr Cymraeg, ac mae Côr Tŷ Tawe wedi cynnal nifer o gyngherddau ac wedi cystadlu gyda chryn lwyddiant mewn cystadlaethau ac Eisteddfodau. Hefyd, enillodd y côr y wobr gyntaf bedair gwaith yng nghystadleuaeth Pan-Celtic, a gynhelir yn Iwerddon yn flynyddol.

Mae Côr Tŷ Tawe’n canu amrywiaeth o ganeuon traddodiadol a modern Gymreig. Mae’r côr yn croesawu siaradwyr Cymraeg ynghyd â dysgwyr yr iaith, ac mae’n cynnig cyfle delfrydol i ddysgwyr ymdrochi eu hunain yn niwylliant Cymru ac i fwynhau cymdeithasu yn y Gymraeg. Cynhelir ymarferion yn Nhŷ Tawe bob nos Fercher rhwng 7pm a 9pm. Oes awydd arnoch chi ymuno? Mae croeso i gantorion newydd bob amser!

Ragsy

gobaith y bydd e’n rhugl rhyw ddydd.

Ymddangosodd ar The Voice UK yn 2013, pan fu’r Cymro, Syr Tom Jones, yn ei fentora.

Mae Rasgsy wedi perfformio mewn nifer o wyliau gan gynnwys Glastonbury, a chefnogodd gerddorion profiadol megis The Proclaimers, James Dean Bradfield a Hue and Cry. Mae ei albwm cyntaf, Ouch!, ar gael nawr.

Bydd yn perfformio ar lwyfan Croeso am 1pm ddydd Sadwrn.

Yn ddiddorol, mae Ragsy hefyd wedi’i hyfforddi’n ben-cogydd a bydd yn coginio yng Nghegin Croeso ym Marchnad Abertawe am 3pm ddydd Sadwrn.

Jack Perrett

Bydd Jack Perrett, cerddor indie-rock sydd wedi’i ddylanwadu gan Oasis a’r bandiau pop Prydeinig yn perfformio ar lwyfan Croeso am 2pm ddydd Sadwrn.

“Dros y blynyddoedd rwyf wedi bod yn berfformiwr ategol i The Smiths, Primal Scream, Amy Winehouse a llawer mwy. Rwy’n cael gwefr ac yn teimlo gwefr pan glywaf rhywbeth arbennig. Dyna beth ddigwyddodd pan glywais Jack Perrett. Mae Jack yn ganwr/cyfansoddwr gwych a drefnais yn syth ar gyfer fy sioe ar BBC Radio Wales” (Janice Long, BBC Radio Wales).

Welsh Whisperer

Bydd y profiad pop gwerin gwledig Cymreig gorau posib yn fyw ar lwyfan Croeso am 2.30pm ddydd Sadwrn. Os bydd ei berfformiad yn debyg i’w fideo, bydd prynhawn o adloniant a difyrrwch o’n blaenau.

Eädyth Crawford

Mae Eädyth yn hanu o Ferthyr ac yn artist dwyieithog. Mae ei harddull gerddorol yn gyfuniad o allweddellau electronig, R&B a chanu’r enaid. Gallwch glywed Eädyth yn Sgwâr y Castell am 3pm ddydd Sadwrn 29 Chwefror.

Tomos Newman

Mae Tomos Newman yn ganwr/cyfansoddwr newydd o Sir Benfro, a bydd yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Croeso am 12pm ddydd Sul 1 Mawrth. Mae wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau a gwyliau, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ddatblygu deunydd newydd ac yn cyd-gyfansoddi ag Owen Powell (Duffy, Catatonia).

Kizzy Crawford

Mae Kizzy Crawford yn 23 oed ac er yn dod o gefndir Bajan mae’n siarad Cymraeg. Dechreuodd ei gyrfa unigol ychydig o flynyddoedd yn ôl ac ers hynny mae Kizzy wedi datblygu soffistigedigrwydd cynyddol i’w chyfansoddi a’i pherfformio, sy’n mynd law yn llaw â’i llais teimladwy ag iddo ystod eang a charisma.

Uchelgais Kizzy fel artist hil gymysg ifanc o Gymru yw creu argraff trwy gyfuno jazz soul-folk dwyieithog, ac mae eisoes yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith  gyda’i chaneuon yn cael eu chwarae’n gyson ar BBC Radio 1, BBC Radio 2, BBC 6Music, BBC Radio 4, BBC Radio Wales , BBC Radio Cymru, a Jazz FM.