Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 26 milltir o arfordir poblogaidd penrhyn Gŵyr. Mae hyn yn cynnwys rhan helaeth o’r ardal o amgylch Rhosili, y traeth arobryn, Pen Pyrod a Mynydd Rhosili.
Mae’r maes parcio mawr a oruchwylir ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig parcio am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (sganiwch eich cerdyn aelodaeth). Codir tâl 24 awr y dydd ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn aelodau. Mae siop Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar agor yn ddyddiol rhwng 10am a 4pm.
Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1PR).
Ewch am dro ar hyd y llwybr cymharol wastad tuag at y Ganolfan Gwylio a mwynhewch y golygfeydd ar draws y bae a thuag at Ben Pyrod.
Maes Parcio: Oes, a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/rhosili-ac-arfordir-de-gyr
Toiledau: Toiled cyhoeddus 24 awr gyda RADAR Ystafell newid babanod neillryw a chawod awyr agored.
Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.
Cludiant cyhoeddus: Oes, gall y pellter rhwng y safle bws a’r llwybr gynnwys tir garw.
Cŵn: Caniateir cŵn ond byddwch yn ymwybodol o’r da byw rhydd ac ymyl y clogwyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Mae llwybr gwastad ond tir garw.
Achubwyr Bywydau: Nac oes.
Os byddwch yn mynd i Ben Pyrod, gwiriwch amserau’r llanw ac ewch i’r Ganolfan Gwylio. Peidiwch â chrwydro’n rhy bell oddi ar y prif lwybr ar hyd y pentir; mae’r clogwyni’n serth iawn!