fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Ewch am dro ar un o ’10 llwybr cerdded Arfordirol Gorau’ Cymdeithas y Cerddwyr. Taith gerdded gylchol, olygfaol, ar ymyl orllewinol penrhyn Gŵyr, wedi’i dewis gan Gymdeithas y Cerddwyd fel un o’r ’10 llwybr cerdded Arfordirol Gorau’.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd.
Math o lwybr: Cylchol
Yn addas ar gyfer: Pawb.
Natur y tir: Mae’r daith gerdded yn cynnwys llwybrau glaswelltog, clogwyni, llwybrau ar hyd caeau a lonydd.
Dechrau: Maes parcio Rhosili (ffi barcio breifat).
Gorffen: Maes parcio Rhosili.
Pellter y daith: Tua 3 milltir (4.8km).
Amser cyfartalog: 2 – 3 awr.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cludiant cyhoeddus: Oes.
Mannau parcio ceir: Yn Rhosili (ffi breifat).
Lluniaeth: Yng ngwesty Worm’s Head Hotel ar ochr arall y maes parcio, ac mae siop ar gael ar ben y maes parcio.
Toiledau cyhoeddus: Ar waelod y maes parcio.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.

 

Gwybodaeth am Ddiogelwch

Os ydych yn bwriadu mentro i Ben Pyrod ei hun, darllenwch y rhybuddion sy’n cael eu harddangos yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar ffenestr ei siop ac ar gaban Gwylfa Gwylwyr y Glannau. Mae’r rhain yn rhoi cyngor am amserau’r llanw a pha ardaloedd i’w hosgoi yn ystod y tymor nythu. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i wylwyr y glannau cyn i chi ddechrau hefyd.

Manylion y daith gerdded

  1. Gadewch y maes parcio ger yr allanfa wrth ben Pen Pyrod, gan basio bythynnod gwylwyr y glannau a siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eich llaw chwith. Ewch drwy’r gât bren ac ar hyd llwybr llydan tuag at Ben Pyrod, gan gadw’r wal gerrig ar eich ochr chwith. Parhewch ar y llwybr hwn am oddeutu 0.5 milltir (0.8km), gan basio tir eithaf tolciog ar eich ochr dde, sy’n dangos presenoldeb olion hen gaer o Oes yr Haearn. Pan fydd y llwybr yn troi am y chwith ochr yn ochr â’r wal, parhewch i gerdded yn syth ar hyd glastir eang tan eich bod yn cyrraedd hen gwt Gwylfa Gwylwyr y Glannau (a ddefnyddir nawr fel canolfan ymwelwyr gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru).
  2. Yma, trowch i’r chwith a dilynwch lwybr y clogwyn am oddeutu 0.75 milltir (1.2km), wrth i’r llwybr ddechrau ymylu Bae Fall, heibio Bae Mewslade, ychydig cyn pentir amlwg Thurba. Nid yw’r llwybr isaf sy’n arwain at Fae Fall yn llwybr swyddogol erbyn hyn – caewyd y llwybr rhai blynyddoedd yn ôl, felly cadwch at y llwybr uchaf ar hyd wal y cae.
  3. Ar ben dwyreiniol Bae Fall, peidiwch â throi i’r chwith dros y gamfa haearn. Yn lle, cadwch y wal ar eich ochr chwith a dilynwch lwybr y clogwyn wrth iddo droi tua’r dde. Parhewch ar hyd y llwybr o gwmpas y pentir tuag at Fae Mewslade. Lle mae’r llwybr yn rhannu, ewch i’r dde i gael y golygfeydd gorau o’r clogwyni yma. Bydd y llwybr yn ymuno â’r llwybr wrth ochr y wal yn nes ymlaen.
  4. Dilynwch y llwybr wrth iddo droi tua’r chwith ac ar hyd Bae Mewslade. Tua 50 llath (46 metr) cyn iddo ailymuno â’r prif lwybr wrth y wal, trowch i’r dde ar hyd llwybr glaswelltog ar waelod y cwm. Mae’n hawdd dod o hyd i’r llwybr drwy chwilio am y ffigysen enfawr tua hanner ffordd i lawr y llethr ar yr ochr dde. Wrth ymuno â’r llwybr ar y gwaelod, trowch i’r chwith i fynd lan y cwm. Cerddwch drwy’r gât at lwybr caregog. Parhewch ymlaen nes eich bod yn cyrraedd Fferm Pitton, drwy ail gât.
  5. Trowch i’r chwith, gan basio rhai bythynnod ar eich chwith, nes i chi gyrraedd y brif ffordd i Rosili. Croeswch yr heol tuag at y lôn ger y blwch post, yn syth o’ch blaen ac ychydig i’r dde. Parhewch ar hyd y lôn hyd at bwynt lle mae’n rhannu’n ddwy. Ewch am y trac i’r chwith (gallwch weld saeth gyfeirbost ar y polyn telegraff), a cherddwch i fyny llethr ysgafn. Byddwch yn pasio byngalo ar eich chwith, ac yna tŷ ar eich dde. Tua 50 llath (46 metr) ar ôl pasio’r tŷ, croeswch gamfa ar y chwith, sydd wedi’i nodi â saeth gyfeirbost ac arwydd ‘Glamorgan Naturalists Trust – Nature Reserve’ (y corff a elwir bellach yn Ymddiriedolaeth Natur Morgannwg). Mae peth gordyfiant ar y llwybr yma, ond peidiwch â phoeni. Cerddwch heibio hen fwthyn to gwellt ar eich ochr chwith a gadael y warchodfa drwy ddefnyddio’r gamfa. Gwnewch hanner troad i’r dde i ymuno â hen dramwyfa brics. Cerddwch ymlaen nes eich bod yn cyrraedd y gamfa i’r dde o’r gât. Croeswch yn gamfa at lôn a cherddwch tuag at y llwybr sy’n syth o’ch blaen.
  6. Dilynwch y llwybr hyd at Gronfa Ddŵr Dŵr Cymru. Yn syth ar ôl i chi basio’r gronfa ddŵr, trowch i’r chwith a cherddwch tuag at y tŷ gwyn o’ch blaen, ychydig i’r chwith. Ychydig heibio’r tŷ, dilynwch y wal garreg gan ei chadw ar eich ochr chwith a pharhewch i gerdded yn y comin. Peidiwch â chroesi’r gamfa â chyfeirbost dros y wal, cadwch i ochr dde’r comin. Lle mae’n troi’n sydyn i’r chwith, uwchben Rhosili, parhewch ymlaen tua 20 llath (18 metr) ac ymunwch â’r llwybr llydan a glaswelltog sy’n arwain oddi ar Fryn Rhosili. Trowch i’r chwith ac ewch i lawr y rhiw i’r lôn er mwyn ymuno â’r brif ffordd drwy Rosili. Trowch i’r dde a dychwelwch i’r maes parcio, naill ai drwy Eglwys y Santes Fair, neu ar hyd y ffordd.

 

Uchafbwyntiau

  • Hanner ffordd ar hyd y llwybr ar y clogwyn rhwng Rhosili a hen gwt Gwylfa Gwylwyr y Glannau byddwch yn sylwi ar dir eithaf ponciog ar y dde. Dyma’r unig beth sydd ar ôl o hen gaer o Oes yr Haearn, a elwir Hen Gastell. Dim ond cyfres o dwmpathau a ffosydd y gellir ei gweld bellach ar ôl iddo gael ei ddinistrio gan gweithgareddau’r chwarelwyr lleol.
  • Ar ochr arall y llwybr, dros y wal garreg, gellir gweld ‘The Viel’, neu (‘The Vile’), hen dafodiaith Gŵyr am ‘gae’. ‘The Viel’ yw un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi goroesi o’r system rhesi caeau agored ganoloesol. Y syniad oedd y câi lleiniau o dir o wahanol ardaloedd eu neilltuo i ffermwyr lleol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfran deg o’r tir ‘da’ a’r tir ‘nad oedd cystal’.
  • Ddim yn bell o’r pwynt hwn, ac islaw Gwylfa Gwylwyr y Glannau, gallwch weld y caban pren â’r enw rhyfedd, Kitchen Corner. Adeiladwyd y caban pren hwn ar waelod y clogwyn gan bysgotwr o Abertawe, dyn o’r enw Mr Coonan, fel lle iddo bysgota am ddraenogiaid môr oddi ar ochr y clogwyn, a rhywle i lansio’i gwch. Mae llwybr yn arwain yn ddiogel at y caban, os ydych am archwilio’r lle’n agosach.
  • Mae pentir gwych ‘Pen Pyrod’ wedi’i rannu’n dair adran glir ac amlwg; mae’r pentir mewnol, canol ac allanol yn debyg iawn i sarff. Dim ond ar adeg llanw isel y gellir ei gyrraedd; mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n hafan i adar y môr, fel gwylanod coesddu, gwylogod, llursod, a gwylanod o wahanol fathau. Os ydych yn bwriadu mentro i Ben Pyrod, gwnewch nodyn o amserau’r llawn sydd ar gael yn siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili a rhowch wybod i wylwyr y glannau cyn i chi ddechrau ar eich taith.
  • Bae Mewslade yw un o’r traethau hynny, fel Bae Fall, sy’n diflannu’n llwyr ar adeg llanw uchel. Mae’n draeth nofio poblogaidd a diogel. Nid yw tarddiad yr enw’n hysbys ond credir y daw o’r hen air ‘Mew’, sef gwylan. Mae’r clogwyni calchfaen dramatig yma’n gwneud hwn yn lleoliad poblogaidd i ddringwyr. Mae hefyd yn gartref i nythfeydd o adar y môr, yn enwedig gwylanod coesddu sydd wedi bridio’n llwyddiannus yma ers yr 1940au. Mae’n debyg bod y gair ‘slade’ yn cyfeirio at y dyffryn glaswelltog sych sy’n rhedeg i lawr i’r môr, sydd fel arfer wedi’i orchuddio gan eithin.
  • Middleton yw man geni Edgar Evans, is-swyddog alldaith anffortunus Scott i’r Antartig. Gellir gweld ei garreg goffa ingol y tu mewn i eglwys Rhosili. Roedd Middleton hefyd yn gartref i rai o smyglwyr enwog Gŵyr, er byddwch chi byth yn meddwl hynny wrth edrych ar y lle heddiw. Yn y ganrif ddiwethaf, roedd tair tafarn yn y pentref, gan gynnwys The Ship Inn (Ship Cottage erbyn hyn). Yn ôl y straeon, roedd mwy nag un seler hefyd!

Daw’r wybodaeth uchod o:Circular Gower Walks gan Nick Jenkins.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i www.baytrans.org.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: