Fflatiau Bwthyn y King Arthur
01792 390775
http://www.kingarthurhotel.co.uk
* * * * *
King Arthur Hotel Self Catering Cottage Apartments
Pedair fflat bwthyn gwyliau llawn lle ond cysurus ym mhentref hardd Reynoldston yng nghanol penrhyn Gŵyr wrth ymyl y prif westy sydd ar agor i gael bwyd a diod trwy'r dydd.
Mae'r fflatiau bwthyn yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, grwpiau o ffrindiau, pobl sy'n dwlu ar gŵn neu barau sy'n chwilio am seibiant yn yr ardal drawiadol hon o harddwch naturiol eithriadol gyda thraethau arobryn o fewn tafliad carreg.
Rhentwch naill ai fflat bwthyn gwyliau 1 ystafell wely neu 2. Mae'r holl ystafelloedd gwely wedi'u haddurno'n brydferth mewn modd arfordirol-wledig gyda mynedfa breifat, teras neu falconi a golygfeydd ar draws maes y pentref a'r cefn gwlad gerllaw. Mae lle parcio ar gael ar gyfer pob fflat yng nghefn yr adeilad.
Mae gan bob fflat ystafell fyw fawr a chyfforddus, gyda lle tân boncyffion nwy a chegin llawn cyfarpar gydag oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad/sychu dillad. Mae cyfleusterau'n cynnwys teledu sgrîn fflat, chwaraewr DVD a Wi-Fi ynddynt i gyd. Mae'r holl fflatiau'n cynnwys tywelion a lleiniau.
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Lawrlwythiadau
Gwobrau
Trip Advisor Certificate of Excellence 2015
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * * * *
Tariffau
Hygyrchedd