Cyfuniad o siop goffi a bar gwin annibynnol newydd ei agor ym Marina Abertawe. Mae'n gweini'r coffi gorau, bwyd bendigedig, gwin gwych a chwrw o safon
01792 448955
Partner Swyddogol
Coast Cafe
Coast Café yw'r siop goffi a bar gwin annibynnol newydd yn SA1.
Wedi'i leoli wrth ymyl y Morglawdd a Phont Tawe tuag at ddiwedd Heol Trawler, mae'r adeilad cyffrous hwn ar agor i dderbyn busnes!
Mae Coast yn cynnig coffi barista, bwyd wedi'i goginio'n ffres ac amrywiaeth eang o win a chwrw.
Mae ardal fawr allanol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros ran o'r marina na ellir eu gweld fel arfer a chan fod yr ardal hon yn dal i gynnwys treill-longau gweithredol, mae ganddi ei swyn unigol ei hun.
Mae gwasanaeth effeithlon i gwsmeriaid yn cyd-fynd â'r amgylchedd hamddenol o safon sydd gan Coast Café.
Mae gan y caffi lawr mesanîn sy'n cynnig golygfeydd gwych dros y marina wrth ymlacio mewn celfi o safon - ni ddylech golli'r ardal hon!
Gellir hefyd hurio'r rhan hon o'r caffi ar gyfer partïon preifat, digwyddiadau, etc. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei phostio ar y wefan hon yn fuan iawn.
Dewch i fwynhau coffi gwych, bwyd lleol ffres a gwydraid o win yn Coast Café; ni fyddwch yn siomedig.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Monday: 9am-4pm
Tuesday: 9am-7pm
Wednesday: 9am-6pm
Thursday: 9am-6pm
Friday: 9am-7pm
Saturday: 9am-7pm
Sunday: 9am-6pm
Cyswllt
Bwyd
Hygyrchedd