fbpx

Cyfle i breswylwyr Abertawe sy’n defnyddio banciau bwyd y ddinas fod yn greadigol gydag eitemau ychwanegol wedi’u cynnwys mewn pecynnau bwyd yr wythnos hon.

Mae tîm Joio Bae Abertawe Cyngor Abertawe wedi coladu eitemau, gan gynnwys deunyddiau arlunio a lliwio a gyflenwyd gan fusnesau lleol, i ddarparu pecynnau gweithgareddau i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd difyrru eu plant yn ystod y cyfnod hwn dan gyfyngiadau symud.

Enjoy Wordsearches

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd y pecynnau gweithgareddau yn helpu nifer o deuluoedd i gadw’n heini.

“Rwy’n diolch i’r busnesau hynny sydd wedi cyfrannu i’r fenter hon ynghyd â swyddogion y cyngor sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd – maen nhw i gyd yma i gefnogi Abertawe ar yr adeg anodd hwn, yn yr un modd ag yr ydynt ar adegau pan nad yw’r wlad yn wynebu argyfwng o’r fath.”

Mae Cyngor Abertawe’n cefnogi’r banciau bwyd cymunedol gyda nwyddau hanfodol i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â’r galw cynyddol, ac mae’r cyngor wedi sefydlu pedwar safle dosbarthu bwyd mewn canolfannau cymunedol.

I ddarllen y datganiad newyddion yn llawn, ewch i www.abertawe.gov.uk.