Rydym yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth i weld sut mae bywyd wedi bod yn Abertawe yn ystod y cyfyngiadau symud a nawr wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio. Hoffem i chi gymryd rhan trwy gyflwyno delwedd sy’n cyfleu eich profiadau chi orau (ac efallai ennill gwobr hefyd!)
Gallai fod yn llun rydych wedi’i dynnu yn ystod y cyfyngiadau symud, neu gallai fod yn rhywbeth newydd. Gall eich delwedd gynrychioli eich bywyd gartref, neu gallai fod yn llun o rywbeth rydych wedi sylwi arno wrth i chi fynd o le i le yn ystod eich ymarfer corff dyddiol. Os ydych yn weithiwr allweddol, gallai fod yn llun o’ch siwrne i’r gwaith neu eich gweithle hyd yn oed.
Dyma gyfle i chi godi eich camera a chadw cofnod o’r eiliadau sy’n dangos sut y mae bywyd wedi newid – neu i edrych yn ôl ar y lluniau rydych chi wedi eu tynnu dros y misoedd diwethaf i weld yr hyn rydych eisoes wedi’i gofnodi.
Mae ein cystadleuaeth ar agor i bobl o bob oed ac mae tri chategori gwahanol:
Bydd enillydd y gystadleuaeth ’16 oed ac iau’ yn derbyn bag o roddion yr amgueddfa o’n siop roddion. Bydd enillwyr y categorïau ’17-25 oed’ a ‘Dros 25 oed yn derbyn detholiad o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig o gornel lyfrau’r Amgueddfa.
Hefyd, bydd y ddelwedd fuddugol a’r naw nesaf at y gorau ym mhob categori yn cael eu cynnwys fel rhan o ‘Gasgliad Capsiwl Covid’ ar gyfer casgliadau Amgueddfeydd Abertawe. Byddant yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i weld, deall a myfyrio ar sut beth oedd bywyd i bobl Abertawe yn ystod y cyfnod hwn o’n bywydau.
Caiff delweddau’r enillwyr a’r rhai nesaf at y gorau eu harddangos mewn arddangosfa dros dro yn ein Horiel Hir hefyd (dyddiadau i’w cadarnhau)
Bydd ein beirniaid yn cynnwys pobl o’r gymuned a fydd yn ein helpu i ddewis yr enillwyr.