fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Goleudy’r Mwmbwls wedi

arwain llongau’n ddiogel i borthladd Abertawe ar hyd yr arfordir a heibio i’r Mixen Shoal am fwy na dau gan mlynedd. 

 

Mae’r goleudy heb griw wedi’i hadeiladu ar yr ynys bellaf o’r ddwy ynys sy’n rhan o Drwyn y Mwmbwls. Dywedir yn aml fod y ddwy ynys sy’n rhan o Drwyn y Mwmbwls yn debyg i ‘fronnau’ neu ‘mamelles’ yn Ffrangeg. Tybed ai o’r gair yma y cafodd y pentref ei enw anghyffredin? Mamelles, y Mwmbwls, swnio’n ddigon tebyg on’d ydyn nhw?

 

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif cafodd Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe yr hawl i ddarparu goleudy ar ynys allanol y Mwmbwls. Cafodd y goleudy ei gwblhau a’i oleuo ym 1794. Yn wreiddiol, roedd yn dangos golau o ddau dân glo agored, un uwchben y llall, er mwyn gwahaniaethu rhwng y rhai ar Bentir St Anne a Flatholm.

Roedd y goleuadau glo mewn pedyll tân yn ddrud ac yn anodd eu cynnal a’u cadw, felly fe’u disodlwyd yn fuan gan un golau olew. Mae’r ddau olau gwreiddiol yn cael eu hadlewyrchu yn strwythur dwy lefel y tŵr.

 

 

Ym 1883, ceidwad y goleudy oedd Abraham Ace, ac yn ystod y nos ar 27 Ionawr y flwyddyn honno, peryglodd ei ddwy ferch, Jessie a Margaret, eu bywydau’n arwrol wrth geisio achub aelodau criw bad achub y Mwmbwls, Wolverhampton. Roedd y bad achub wedi mynd allan yn gynnar ar fore ‘Storm Fawr’ dydd Sadwrn 27 Ionawr 1883, i gynorthwyo’r bad 885 tunnell, Admiral Prinz Adalbert o Danzig, yr Almaen, pan wyrodd i ynys allanol Pen y Mwmbwls a dryllio o dan y goleudy.

Mae’r goleudy yn parhau i gadw morwyr sy’n dod i mewn i’r bae yn ddiogel heddiw gyda’i baneli solar sy’n pweru dwy lusern Tideland sy’n tywynnu eu golau llachar i’r nos.

Darganfod rhagor…