fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
  • Beth yw IRONMAN a pham mae hwn yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad mawr?

Mae Grŵp IRONMAN yn gweithredu portffolio byd-eang o ddigwyddiadau sy’n cynnwys Cyfres Triathlon IRONMAN® a Chyfres Triathlon IRONMAN®70.3® ynghyd â llawer mwy.

IRONMAN Group yw gweithredwr mwyaf chwaraeon cyfranogiad torfol yn y byd ac mae’n darparu buddion chwaraeon dygnwch i fwy na miliwn o gyfranogwyr yn flynyddol trwy cynigion helaeth y cwmni.

Ers sefydlu’r brand eiconig IRONMAN® a’i ddigwyddiad cyntaf ym 1978, mae athletwyr wedi profi bod UNRHYW BETH YN BOSIBL® trwy groesi llinellau gorffen ledled y byd.

Gan ddechrau fel un ras, mae’r IRONMAN Group wedi tyfu i fod yn ffenomen byd-eang gyda channoedd o ddigwyddiadau ar draws 55+ wlad.

Mae’r IRONMAN Group yn perthyn i Advance, busnes preifat, teuluol.

Mae digwyddiadau mawr megis yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud Abertawe’n gyrchfan wych i fyw, ymweld, gweithio a buddsoddi ynddi. Mae digwyddiadau mawr yn allweddol i’n heconomi, gan greu profiad bywiog a deinamig i bawb. Maent yn dod â miloedd o ymwelwyr i’r ardal a miliynau o bunnoedd i’r economi leol

  • A allai’r digwyddiad wedi cymryd le ar adeg wahanol o’r flwyddyn?

Rydym yn derbyn nad yw amseriad y ras yn ddelfrydol i bawb. Fodd bynnag, mae rhesymau cadarn dros raglennu’r digwyddiad ar 14 Gorffenaff. Gyda dros 2,000 o gystadleuwyr yn nofio, beicio a rhedeg y cwrs, mae angen ystyried ffactorau megis y tywydd (cymaint ag y gellir ei dybio) a thymheredd y dŵr, ochr yn ochr â’r calendr o ddigwyddiadau yn y ddinas yn ogystal â digwyddiadau Ironman eraill yn fyd-eang.

  • Rwyf wedi e-bostio/ffonio’r cysylltiadau a awgrymwyd ac nid wyf wedi derbyn ymateb eto. Pryd fyddan nhw’n cysylltu gyda fi?

O ganlyniad i’r cynlluniau manwl a rannwyd ddiwedd, mae Ironman wedi derbyn nifer o ymholiadau sydd bellach yn cael sylw. Mae pob ymholiad yn derbyn ymateb unigol.

Unwaith y bydd y ceisiadau cychwynnol wedi’u brosesu, mae Ironman yn bwriadu ymateb i bob ymholiad newydd o fewn tri diwrnod gwaith.

Mae’r llinell ffôn yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-4pm. Mae gwasanaeth ateb yn ei le ar benwythnosau.

  • A fyddaf yn dal i allu teithio i/o fy ngwaith?

Mae Ironman, fel trefnydd y digwyddiad, yn awyddus i weithio gyda busnesau a thrigolion lleol i wneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu ar gyfer anghenion lleol ac i adeiladu perthnasoedd gwaith cryf, sydd o fudd i bawb.

Yn anffodus, oherwydd natur y digwyddiad a’r ffyrdd sy’n cael eu defnyddio, ni allwn warantu y bydd mynediad anhanfodol yn cael ei gynnal drwy gydol y digwyddiad.

Fel ni, mae Ironman yn dymuno tarfu cyn lleied â phosibl, sicrhau ewyllys da a chefnogaeth yn lleol a darparu clust i wrando. Er mwyn ymgymryd â’r ymrwymiad hwn, ac i drafod unrhyw faterion mynediad penodol, maent wedi darparu’r e-bost hwn abertawe70.3@ironmanroadaccess.com a rhif ffôn 03330 11 66 00 fel y gallant glywed yn uniongyrchol unrhyw syniadau, neu materion arall yr ydych yn dymuno rhannu.

  • A fyddaf yn gallu mynychu’r eglwys?

Mae gan Ironman dîm o gaplaniaid yn gweithio gydag eglwysi lleol i sicrhau bod mor gymaint o’u heglwyswyr â phosibl yn dal i allu mynychu eu haddoldai rheolaidd.

  • Beth am y gwasanaethau argyfwng?

Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Cyngor Abertawe, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans wedi bod yn rhan o gynllunio’r digwyddiad hwn.

Bydd mynediad i’r gwasanaethau argyfwng (gan gynnwys ymatebwyr cyntaf fel yr RNLI) yn cael ei gynnal trwy’r amser.

  • A fydd gofalwyr/GIG yn dal yn gallu gweithio?

Bydd Ironman yn gweithio fesul-achos gan fod angen iddynt sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel i feicwyr ac unrhyw un sy’n teithio ar y ffyrdd sydd ar gau. Maent yn gweithio’n benodol gyda chwmniau gofal/GIG i sicrhau bod eu mynediad yn cael ei gynnal.

Bydd Ironman yn anfon cyfathrebiadau penodol i busnesau a gofalwyr trwy’r Cyngor gyda gwybodaeth fanylach am fynediad ac yn annog unrhyw un y mae cau ffyrdd yn effeithio arnynt i gysylltu â ni dros y ffôn ar 03330 11 66 00 neu drwy e-bost abertawe70.3@ironmanroadaccess.com.

Yn anffodus, oherwydd natur y digwyddiad a’r ffyrdd sy’n cael eu defnyddio ni allwn warantu y bydd mynediad anhanfodol yn bosibl bob amser.

  • Beth am yr effaith ar fy musnes?

Gobeithiwn y gallwn gynnig rhywfaint o sicrwydd am yr effaith drwy wybod bod Ironman yn ddigwyddiad teuluol. Yn gyffredinol mae’n gweld cystadleuwyr yn teithio gyda ffrindiau a theuluoedd i greu profiad gwyliau haf, gan ymestyn eu harhosiad cyn ac ar ôl y digwyddiad. Mae eraill yn dewis ymweld â’r ardal cyn y digwyddiad i weld a phrofi’r cwrs. O ran yr effaith ar dwristiaeth yn rhanbarthol, rhagwelir y bydd llawer o gystadleuwyr yn ein digwyddiad 70.3 yn manteisio ar y cyfle i gynhesu ar gyfer yr Ironman llawn yn Ninbych-y-pysgod yn ddiweddarach eleni, gan adeiladu gwybodaeth gryfach o’r ardal yn gyffredinol ar gyfer rhagolygon twristiaeth yn y dyfodol ac ymweliadau pellach.

Rydym yn falch o weld bod nifer o fusnesau eisoes wedi cysylltu â’r trefnwyr ac yn masnachu. Ar ôl dysgu mwy am y buddion, maen nhw wrthi’n cefnogi ac yn rhannu meddyliau cadarnhaol am sut i harneisio’r cyfle a hyrwyddo eu cynnyrch i’r cystadleuwyr a’r mynychwyr.

  • Pa fanteision y mae’r digwyddiad hwn yn eu rhoi i’r cyrchfan?

Gwyddom fod digwyddiadau fel hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ffyniant ardal. Er ein bod yn dal i weld beth mae hyn yn ei olygu i ni, mae gennym dystiolaeth o’n profiad ein hunain ac o feysydd eraill sydd wedi croesawu Ironman ac rydym yn hyderus y bydd y pethau cadarnhaol yn gorbwyso’r pethau negyddol yn llethol.

Mae Ironman, fel trefnydd y digwyddiad yn Abertawe, yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol i wneud popeth posibl i ddarparu ar gyfer anghenion ac i feithrin perthnasoedd gwaith cryf, sydd o fudd i’r ddwy ochr. Fel ni, maent yn dymuno tarfu cyn lleied â phosibl, sicrhau ewyllys da a chefnogaeth yn lleol a darparu clust i wrando. Er mwyn ymgymryd â’r ymrwymiad hwn, ac i drafod unrhyw faterion mynediad penodol, maent wedi darparu’r e-bost hwn
swansea70.3@ironmanroadaccess.com neu ffoniwch 03330 11 66 00 fel y gallant glywed yn uniongyrchol unrhyw syniadau, neu materion eraill y gallwch eu rhannu.

  • Pam mae angen cau ffyrdd?

Ras yw IRONMAN ac mae angen cau ffyrdd er diogelwch yr athletwyr ac unrhyw un ger llwybr y ras.

  • Pryd bydd y ffyrdd ar agor?

Mae IRONMAN bob amser wedi ceisio ail-agor ffyrdd mor gyflym â phosib ar ôl i’r athletwyr olaf fynd heibio felly gallant fod ar agor yn gynharach na’r hyn a hysbysebir.

  • Beth yw’r llwybrau melyn ar y map trefniadau cau ffyrdd?

Nid yw’r trefniadau cau ffyrdd yn effeithio ar y llwybrau melyn a byddant ar agor drwy’r dydd.

  • Mae llawer o dyllau yn y ffordd – a fydd y ffyrdd yn cael eu hatgyweirio?

Mae IRONMAN yn gweithio gyda’r cyngor i atgyweirio rhannau anniogel o’r llwybr cyn y digwyddiad. Caiff unrhyw beth nad oes modd ei atgyweirio ei amlygu â chwistrell lliw oren.

  • Alla’ i gerdded ar draws y llwybr?

Gallwch – gall cerddwyr groesi’r llwybr ar unrhyw adeg, pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Sylwer. gall fod y beiciau’n teithio’n gyflymach nag yr ydych chi’n ei feddwl, felly croeswch pan fo bwlch da.

  • Alla’ i feicio neu farchogaeth ar y ffyrdd sydd ar gau?

Na chewch, yn anffodus – mae’r trefniadau cau ffyrdd hefyd yn berthnasol i feicwyr a marchogion nad ydynt y rhan o’r digwyddiad, nid cerbydau’n unig.

  • Alla’ i siarad â rhywun am fynediad yn ystod y cyfnod pan fydd y ffyrdd ar gau?

E-bostiwch swansea70.3@ironmanroadaccess.com neu ffoniwch 03330 11 66 00 a gadewch leisbost os yw’r llinell ffôn yn brysur, a bydd rhywun yn eich ffonio chi nôl.

  • Ydych chi’n cynnig iawndal ar gyfer busnesau o amgylch y llwybr?

Yn anffodus, nid yw IRONMAN yn ad-dalu busnesau y mae’r trefniadau cau ffyrdd yn effeithio arnynt. Os hoffech siarad â rhywun am eich bod mewn man problemus o ran gwylwyr neu os gallwch wneud unrhyw beth i ddenu’r athletwyr yn ystod eu reidiau hyfforddi, e-bostiwch swansea70.3@ironmanroadaccess.com

  • Mae gen i fusnes – sut gallaf gymryd rhan yn y digwyddiad?

E-bostiwch swansea70.3@ironmanroadaccess.com i drafod sut gallwch gymryd rhan yn y digwyddiad.