Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 28 Hydref o 11am wrth i St David’s Place Abertawe (ger hen siop Iceland) gael ei drawsnewid yn ardal arswydus!
Bydd y digwyddiad hwn sydd AM DDIM yn ddifyrrwch dieflig a fydd yn cynnwys adloniant ar thema, paentio wynebau, celf a chrefft Calan Gaeaf a sioeau byw gan ysgolion dawns Abertawe.
Gwisgwch i fyny a dewch draw i gael hwyl hunllefus!