fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gofynnwn am eich cydweithrediad ac i chi ddilyn y canllawiau canlynol a ddyluniwyd i’ch helpu ac i wneud eich diwrnod mor llyfn â phosib.

Isod fe welwch yr amserau unigol ar gyfer pob un o’r cyngherddau, yn ogystal â Phethau i’w Gwneud a Phethau i Beidio â’u Gwneud a rhagor o wybodaeth i’ch helpu chi i gael y gorau o ddiwrnod y digwyddiad.

SUT I GYRRAEDD

  • Cynhelir y gyngerdd ym Mharc Singleton, Mumbles Road, Abertawe SA2 0AU

MEWN CAR

  • I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ffyrdd arfaethedig, ewch i roadworks.org neu ar gyfer traffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru – traffic-wales.com
  • Nodwch y côd post SA2 0AU yn eich system Llywio Lloeren.
  • Bydd arwyddion helaeth yn eu lle cyn y gyngerdd yn dweud wrth y rheini sy’n mynd i’r gyngerdd am leoliad y cyfleusterau parcio.

 

SAFLEOEDD PARCIO CEIR

MAES PARCIO’R REC

  • Gellir cael mynediad i’r Rec o Mumbles Road, Abertawe. Codir £5 fesul car. Arwynebedd graean yw’r maes parcio hwn. Bydd taith gerdded fer (850m) o’r maes parcio i arena’r gyngerdd. Côd post – SA2 0AU, What 3 Words https://what3words.com/boss.shops.hill

Mae parcio hygyrch ar gael yn nau maes parcio’r digwyddiad

PARCIO A THEITHIO

    • Does dim cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwn ar hyn o bryd.

CYRRAEDD AR Y BWS

  • Mae’r bysus yn mynd o ganol dinas Abertawe a lleoliadau amrywiol eraill i Barc Singleton.
  • Lleolir safleoedd bysus ger mynedfa Mumbles Road i Barc Singleton.
  • Dylai’r rheini sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amserau’r gyngerdd a gwirio gyda’r gweithredwr (First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com) am fanylion yr amserlen.

CYRRAEDD AR Y TRÊN

  • -Yr orsaf reilffordd agosaf at Barc Singleton yw Stryd Fawr Abertawe sydd oddeutu 2 filltir i ffwrdd. Mae arhosfan tacsis y tu allan i’r orsaf.
  • Dylai’r rheini sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amserau’r gyngerdd a gwirio gyda’r gweithredwr (Trafnidiaeth Cymru: 0333 3211 202 www.tfwrail.wales | First Great Western: 0345 7000 125 neu www.gwr.com) am fanylion yr amserlen.
  • – Ewch i www.nationalrail.co.uk i wirio ymlaen llaw am unrhyw waith peirianneg arfaethedig a all effeithio ar eich taith.

MAN GOLLWNG TACSIS

  • Os ydych chi’n cyrraedd mewn tacsi, dylech geisio cael eich gollwng a’ch casglu ym Bryn Road. Ni chaiff tacsis fynd i mewn i’r parc.
  • Bydd y gyngerdd yn dod i ben am oddeutu 10.30pm. Caniatewch ddigon o amser i gerdded o arena’r gyngerdd i’r briffordd pan fyddwch yn trefnu’ch tacsi.

HYGYRCHEDD

  • Cynhelir y digwyddiad ar laswellt gyda llwybrau tir caled; bydd stiwardiaid cyfeillgar, toiledau hygyrch ac ardal wylio i bobl anabl ar gael. Mae’r parc yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â chymorth.
  • Mae parcio hygyrch ar gael yn y Rec ond mae gan y maes parcio arwyneb graean.
  • Sylwer, does dim gorchudd dros y llwyfan gwylio hygyrch

TYWYDD

  • Ni chaiff y gyngerdd ei chanslo os bydd y tywydd yn wael.
  • Dewch â dillad addas i’r tywydd gyda chi. Er mwyn rhoi ystyriaeth i bobl eraill yn y gyngerdd, gwaherddir ymbaréls a gasebos.

LLUNIAETH

  • Ni chaniateir i chi ddod â bwyd a diod i mewn i’r digwyddiad (*oni bai fod angen gwneud am resymau meddygol).
  • Bydd amrywiaeth o arlwyo, sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd a diod, ar gael yn arena’r digwyddiad o amser agor y gatiau.
  • Gallwch ddod â photel o ddŵr wedi’i selio.

TOILEDAU

  • Mae cyfleusterau toiledau safonol a hygyrch ar gael ar draws arena’r digwyddiad.