fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Cyrraedd y Lleoliad

Cyrraedd mewn Car
Dilynwch arwyddion y cyngherddau i Barc Singleton, Abertawe a dilynwch arwyddion priodol meysydd parcio’r digwyddiad.

O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Bydd Parc Singleton ar y dde tua 500m ar ôl Maes Rygbi San Helen.

O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, trowch i’r dde ar ôl gyrru tua 2.5 milltir wrth y prif oleuadau, gan ddilyn yr arwyddion am ‘Gŵyr’ (mae tafarn The Marquis Arms ar yr ochr dde). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde wrth y goleuadau traffig i Vivian Road. Parhewch i ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, yna’r arwyddion ar gyfer meysydd parcio’r digwyddiad.

Meysydd parcio’r digwyddiad

Bydd meysydd parcio yn agor o 12 ganol dydd. Sylwer na ellir parcio dros nos mewn unrhyw faes parcio ar gyfer y digwyddiad. Mae meysydd parcio’r digwyddiadau ar gyfer deiliaid tocynnau’r digwyddiad yn unig. Rhaid talu wrth gyrraedd pob maes parcio.

Y Rec

Gellir cael mynediad i’r Rec o Mumbles Road, Abertawe. Codir £10.00 fesul car. Arwynebedd graean yw’r maes parcio hwn. Bydd taith gerdded fer (850m) o’r maes parcio i arena’r gyngerdd. Côd post – SA2 0AU, What 3 Words https://what3words.com/boss.shops.hill

Mae parcio hygyrch ar gael yn nau maes parcio’r digwyddiad

Fydd ar gau a cyfyngiadau parcio

Parcio a Theithio

Nid oes unrhyw safleoedd parcio a theithio yn weithredol ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cyrraedd y digwyddiad mewn bws

Mae’r bysus yn mynd o ganol dinas Abertawe a lleoliadau amrywiol eraill i Barc Singleton. Mae’r safleoedd bysus ger mynedfeydd Gower Road, Sketty Lane ac Oystermouth Road i Barc Singleton.

Gwiriwch gyda’ch gweithredwr bysus am fanylion yr amserlen fysus ar ôl i’r gyngerdd ddod i ben oherwydd gall y ffyrdd sydd ar gau effeithio ar fannau casglu/gollwng y bysus.

Dylai’r rheini sy’n mynd i gyngherddau fod yn ymwybodol o amseru’r gyngerdd ac fe’u cynghorir i wirio gyda’r gweithredwr am fanylion yr amserlenni oherwydd newidiadau posib i amserlenni arferol ar ddyddiau digwyddiadau.

First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com

Gweithredir y gwasanaethau bysus canlynol yn ardal Parc Singleton:

2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 10, 20, 20A and 21A

Cyrraedd ar y trên

Yr orsaf drenau agosaf at Barc Singleton yw Gorsaf Stryd Fawr Abertawe, sydd oddeutu 2 filltir o’r parc. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf.  Os byddwch yn mynd adref ar drên, cofiwch adael safle’r digwyddiad o leiaf awr cyn amser gadael eich trên i gyrraedd yr orsaf mewn da bryd. Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr www.traveline.cymru

Rhif ffôn: 03333 211 202

Tacsis

Bydd tacsis ar gael o orsaf drenau Abertawe, canol dinas Abertawe a nifer o leoliadau eraill yn yr ardal.

Bydd taith mewn tacsi o’r orsaf drenau i Barc Singleton yn costio oddeutu £8, ond sylwer y bydd traffig prysur neu deithiau araf yn cynyddu’r pris.

  • Ni chaniateir i dacsis gael mynediad i Barc Singleton. Os ydych yn cyrraedd mewn tacsi dylech anelu at gael eich gollwng a’ch casglu yn Bryn Road.

Mae ciwiau ar gyfer tacsis sy’n gadael y safle yn aml yn eithaf hir, ystyriwch archebu cerbyd hurio preifat ymlaen llaw i’ch casglu. Caniatewch ddigon o amser i gerdded o arena’r gyngerdd i’r briffordd pan fyddwch yn trefnu tacsi.

Mae’r man casglu dynodedig ar gyfer cerbydau hacni ar ochr Brynmill Lane Bryn Road.

Bydd marsialiaid tacsis yn gweithredu yn yr ardal

Llecyn Gollwng / Codi Teithwyr

Bydd y man casglu a gollwng dynodedig ar De La Beche Road. Bydd yr ardal hon wedi’i goleuo a’i stiwardio’n dda trwy gydol y digwyddiad.

Peidiwch â cheisio gollwng na chasglu yn unrhyw le ar hyd Oystermouth Road.

Wrth drefnu i gael eich casglu dylech fod yn ymwybodol o’r ffyrdd sydd ar gau yn yr ardal. Bydd manylion y ffyrdd sydd ar gau ar gael yn fuan.

Beicio

Os hoffech chi feicio i’r digwyddiad, gallwch gynllunio eich taith yn www.sustrans.co.uk

Llefydd i aros

I gael rhestr o lefydd gwych i aros, trowch at ein chwaer wefan, www.visitswanseabay.com. Archebwch le i aros gan ddefnyddio eu rhestr hwylus o westai, busnesau gwely a brecwast a rhagor. Hefyd, cofiwch chwilio’n rheolaidd am y cynigion argaeledd hwyr i gael y bargeinion munud olaf gorau.

Hygyrchedd

Cynhelir y digwyddiad ar wair; bydd stiwardiaid cyfeillgar, toiledau hygyrch ac ardal wylio i bobl anabl ar gael.
Mae’r parc yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â chymorth.