fbpx

Pen-blwydd Hapus i Lwybr Arfordir Cymru!

Mae 2022 yn nodi 10 mlynedd ers lansio’r llwybr arfordirol hwn ar draws y wlad – felly i ddathlu, rydym yn mynd i rannu un o’n hoff rannau o’r llwybr…

Gwneud yn Fawr o Lwybr yr Arfordir – O Abertawe i Rosili

Dechreuwch yn Abertawe – dinas y glannau – drwy fynd am dro ar hyd y promenâd i ddechrau, gan ei fod yn wastad ac yn hollol hygyrch yr holl ffordd i’r Mwmbwls. Cymerwch eich saib cyntaf i fwyta hufen iâ enwog o’r Mwmbwls – ni fydd angen i chi adael y llwybr hyd yn oed!

Mae clogwyni aruthrol deheuol Gŵyr yn dechrau y tu hwnt i’r Mwmbwls. Mae rhannau newydd o’r llwybr troed hwn hefyd yn hygyrch, felly gall cerddwyr â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio fwynhau’r golygfeydd godidog o’r llwybr rhwng Baeau Limeslade, Langland a Caswell. Mae pethau’n dechrau mynd yn fwy gwyllt ar ôl mynd heibio Caswell, ac nid o ran y golygfeydd yn unig! Chwaraeodd Cildraeth Brandi a Phwll Du rôl allweddol yn smyglo nwyddau yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Wrth i chi barhau ar hyd y clogwyn, byddwch yn siŵr o weld bae eiconig y Tri Chlogwyn (mae’r enw’n egluro’r cyfan!) – cadwch lygad am adfeilion Castell Pennard gerllaw. Ym Mae Oxwich, mae’r dirwedd yn newid i dwyni tywod a morfeydd – ac mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Ewch am y clogwyni eto o gwmpas Trwyn Oxwich i fynd i Fae Porth Einon, hen bencadlys grŵp o smyglwyr enwog eraill o’r 18fed ganrif.

Gallwch barhau i gerdded ar hyd y clogwyni, ond os ewch chi ar hyd y creigiau neu’r traeth islaw (gan ddibynnu ar y llanw), gallwch weld Twll Culver, a oedd yn arfer bod yn golomendy canoloesol ond fe’i defnyddiwyd ar ôl hynny i storio nwyddau gwaharddedig smyglwyr!  Wrth i chi barhau ar hyd llwybr y clogwyni, fe gyrhaeddwch Warchodfa Natur Genedlaethol Arfordir Gŵyr a Phen Pyrod, sy’n ymestyn i’r môr ac yn dangos dechrau traeth Bae Rhosili, sy’n wynebu’r Iwerydd. Ewch ar hyd y sarn i Ben Pyrod os yw’r llanw’n caniatáu – gwiriwch hyn yng Nghanolfan Gwylio’r Glannau ger dechrau’r sarn.

Yna ewch tua’r bryn a pharhewch i gerdded ar hyd Twyni Rhosili i gael gweld y golygfeydd godidog ar draws y bae, Pen Pyrod ac ynys lanwol Burry Holms.

Caniatewch 2-3 diwrnod i gerdded y llwybr – gan ddibynnu ar faint o seibiau rydych chi’n eu cymryd i archwilio!

Cam Wrth Gam

Os nad yw 51 milltir o Lwybr Arfordir Gŵyr yn ddigon i chi, peidiwch â phoeni – mae gennym ragor o lwybrau i chi eu mwynhau! Os ydych chi’n barod am yr her, cerddwch ar hyd Llwybr Gŵyr mewn tair rhan, a fydd hyn yn eich arwain o bwynt uchaf Bae Abertawe ym Mhenlle’r Castell, yr holl ffordd i ran fwyaf gorllewinol y penrhyn yn Rhosili. Yn ogystal, mae gennym lawer o lwybrau cerdded drwy’r goedwig; beth am roi cynnig ar Warchodfa Natur Coed yr Esgob a Pharc Gwledig Clun, llwybrau cerdded y rhaeadrau yng Nghoed Cwm Penllergaer a llwybrau’n llyn yn Nyffryn Lliw?

Mae rhagor o wybodaeth am gerdded i’w chael yn croesobaeabertawe.com/cerdded-bae-abertawe/

Dyma enghreifftiau o lety cyfforddus sy’n addas i gerddwyr croesobaeabertawe.com/listings/cyclists-walkers-welcome/