fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae’r haf wedi cyrraedd, mae’r ysgol ar gau ac mae’n mynd i fod yn haf i’w gofio!
Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr hyn sy’n digwydd ym Mae Abertawe dros yr wythnosau nesaf, cymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ennill gwobrau di-ri a chofiwch y gallwch chi fynd allan i fwynhau ein parciau hyfryd a’n traethau hardd drwy’r dydd a bob dydd am ddim!

Theatr Awyr Agored

Mae’r Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth yr haf hwn! Bydd Peter Rabbit yn serennu ar 9 Awst am 2.00pm a gallwch fwynhau clasur Shakespeare, Twelfth Night, wrth i’r haul fachlud ar dir y lleoliad delfrydol hwn ar 10 Awst am 7.00pm. Mae tocynnau ar gael nawr. Diolch i’n noddwyr swyddogol www.holidaycottages.com

Mwy o wybodaeth

 

 

Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau

Ymunwch â ni yng Nghastell Ystumllwynarth am ddiwrnod hudol lle bydd y straeon rydyn ni’n eu hadrodd yn cyfnewid rhwng straeon am arglwyddi ac arglwyddesau a thywysogion a thywysogesau.
Beth am wisgo i fyny? Byddwch mewn cwmni da gyda’n tywysogion a’n tywysogesau ein hunain a fydd yn cerdded o amgylch y castell yn cwrdd a chyfarch pawb, a bydd digonedd o gerddoriaeth a straeon i ychwanegu at yr awyrgylch gwych.

Tâl mynediad arferol yn berthnasol, a bydd y castell ar agor tan 5.00pm.
Ymunwch â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth am daith dywys o ystafelloedd, rhagfuriau, grisiau a chromgelloedd y castell er mwyn cael cipolwg ar fywyd canoloesol a dysgu straeon am y gorffennol.

Mwy o wybodaeth

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fis Awst i fwynhau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog! Dewch i godi’r to yn yr Amgueddfa ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 2 Awst, gyda sgiliau syrcas, cerddoriaeth fyw, celf a chrefft a llawer mwy. Defnyddiwch eich sgiliau dylunio ac adeiladu i gwblhau heriau XLWales bob dydd Iau ym mis Awst. Gallwch hefyd wneud melinau gwynt  pypedau cysgod eich hun yn ein sesiynau gwneud a chymryd. Neu ymunwch â ni wrth i ni fynd yn wallgof yn y Parti Môr-ladron ar 13 Awst! Ac os nad oes digon o oriau yn y dydd i chi fwynhau ymweliad â’r amgueddfa, byddwn yn ymestyn ein horiau agor tan 7:30yh bob dydd Iau lle gallwch roi cynnig ar argraffu neu argraffu â llaw neu fwynhau tamaid ysgafn yn y caffi.

Mae rhywbeth at ddant pawb. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Mae gan y Tîm Chwaraeon ac Iechyd haf gwych wedi’i gynllunio, gyda llawer o weithgareddau i blant gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys PEDWAR gwersyll yr haf Us Girls a PHEDAIR sesiwn Gemau Stryd. Ochr yn ochr â’r amserlen reolaidd, mae digon i edrych ymlaen ato! Dilynwch y Tîm Chwaraeon ac Iechyd ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd.

Cadw’n heini!

Lleoliadau Diwylliannol

Ar y diwrnodau hynny sydd ddim mor braf, cofiwch fod ein lleoliadau diwylliannol a’n llyfrgelloedd yn cynnal llawer o weithgareddau am ddim drwy gydol y gwyliau, felly galwch heibio neu ewch ar-lein i weld beth sydd ar gael.

Mae Canolfan Dylan Thomas yn cynnal gweithdai galw heibio ‘Holiday Memory’ am ddim dan arweiniad tiwtor ar 4, 11, 18 a 25 Awst.

Ymysg y gweithgareddau eraill sydd ar gael yn Oriel Gelf Glynn Vivian yr haf hwn mae’r cyfle ei ymuno â chyfres o weithdai ‘Rwy’n gallu…’ creadigol, am ddim gan gynnwys paentio, printio a cherflunio.

Mae gan Amgueddfa Abertawe ddigon i’w gynnig hefyd: mae gemau gardd yn ôl ac yn dechrau ar 27 Gorffennaf, bydd gweithdy am ddim bob dydd Iau o 10am tan 1pm. Bydd ystafell ymlacio’r amgueddfa ar agor hefyd a bydd gemau i’w chwarae, lluniau i’w lliwio a llyfrau i’w darllen.

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i weld pa weithgareddau am ddim mae’n eu cynnig yr haf hwn – mae gweithgareddau wythnosol rheolaidd yn cynnwys Clwb LEGO a sesiynau celf a chrefft.

Mwy o wybodaeth

Atyniadau Awyr Agored

Mae gwyliau’r haf yma a pha well amser i roi cynnig ar ein hatyniadau awyr agored gwych?

Gallwch fynd ar bedalo yn llyn cychod Singleton neu gael gêm o golff gwallgof yn y parc. Os ydych chi’n ffansïo gêm arall, mae mwy o golff gwallgof ar gael yng ngerddi Southend.

Cofiwch gallwch arbed arian ar yr atyniadau hyn gyda’r cynllun Pasbort i Hamdden

Mae yna hefyd barc dŵr awyr agored am ddim yn Lido Blackpill sy’n cynnwys pwll padlo a nodweddion dŵr – pa ffordd well o oeri yn yr haul?

Atyniadau Awyr Agored

Gŵyl Cwrw a Seidr Abertawe

Ar ôl tair blynedd o hoe, mae Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn (CAMRA) Abertawe yn falch o ddod â Gŵyl Cwrw a Seidr Bae Abertawe yn ôl i Neuadd Brangwyn.

Bydd gennym dri bar gyda thros 100 o gyrfau go iawn o bob rhan o’r DU, ac un arall gyda thros 50 o seidrau a gellygwinoedd go iawn. Iechyd da!

Mwy o wybodaeth

Bysus am ddim!

Newyddion gwych! Mae’r gwasanaeth bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer yr haf! Bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun rhwng dydd Gwener 28 Gorffennaf a dydd Llun 28 Awst gallwch deithio i unrhyw le o fewn sir Abertawe am ddim! Gallwch fynd i’r dre, i’r traeth, i weld eich ffrindiau, teithio adre ar ôl mynd am dro hir neu fynd ar daith i ardal wahanol. Dewch i deithio.

Mwy o wybodaeth

10k Bae Abertawe Admiral – Ewch amdani!

Medal ddisglair, crys T i’w wisgo gyda balchder neu’r teimlad gwych pan rydych chi’n croesi’r llinell derfyn.

Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais – erbyn diwedd mis Awst. Ewch amdani!

Cofrestru!

Ennill – bwndel i’w joio!

Eisiau ennill taleb £100 ar gyfer siopau’r Cwadrant, tocyn teulu i Plantasia, basged gan Farchnad Abertawe, tocyn teulu ar gyfer yr LC yn Abertawe, tocyn teulu ar gyfer atyniadau awyr agored o’ch dewis A bag nwyddau a thocynnau hanner tymor ar gyfer gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd? Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth nawr!

Cymerwch ran!