fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2022.

Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy’n cynnal yr atyniad hanesyddol, sy’n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe.

Bydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 11am a 5pm ddydd Llun i ddydd Sul o 2 Ebrill tan 30 Medi yn ogystal â phob penwythnos ym mis Hydref.

Mae digwyddiadau eraill yn ystod gwyliau’r Pasg yn cynnwys teithiau tywys o’r castell, sydd wedi’u trefnu a’u cynnal gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth, sy’n rhoi cipolwg ar y castell drwy lygaid arbenigwyr hanes lleol. Cynhelir y teithiau ar 13 Ebrill a 20 Ebrill am 11.30am, 1.30pm a 3.30pm.

Family Fun Oystermouth Castle

Gall teuluoedd hefyd edrych ymlaen at archwilio tir y castell wrth iddynt fynd ar Helfa Bwni’r Pasg, gyda chyfle i ennill gwobrau a danteithion eraill ar ddydd Sul y Pasg.

Mae gan y castell waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn arfer cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.

Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Benrhyn Gŵyr gael ei gipio gan y Normaniaid. Roedd Brenin Edward I, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â’r castell am ychydig ym 1284.

Mae gan y siop roddion ddigon o stoc ar gyfer y tymor newydd gan gynnwys anrhegion unigryw sy’n seiliedig ar thema, sydd ond ar gael yn y castell, fel mygiau, lleiniau sychu llestri, llyfrau lleol ac offer ysgrifennu.