Bwriedir i’r Oriel ailagor ddydd Mercher 11 Tachwedd yn amodol ar yr arweiniad perthnasol gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y cyfnod cau byr hwn, cymerwch gip ar ein harddangosfeydd a’n rhaglenni dysgu cyfredol ar-lein!
Gan ddefnyddio’n casgliad gwych a’n rhaglenni arddangos, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o weithgareddau cyffrous i’ch ysbrydoli, yn ogystal â chreu prosiectau newydd i chi roi cynnig arnynt gartref.
O fywluniadu i fodelu, a’n llwybr i deuluoedd Glynn Vivian newydd, mae digonedd o weithgareddau i’ch cadw’n brysur dros yr hanner tymor.
Byddwn hefyd yn rhannu detholiad o fideos ar thema’r hydref a Chalan Gaeaf ar gyfer eich Babanod Celf, i’ch helpu i fod yn greadigol yn ystod y cyfnod atal byr gyda’ch plant bach.
Gallwch anfon lluniau o’ch gwaith at @GlynnVivian #DysguGlynnVivian #GlynnVivianGartref
Mae gan Lyfrgelloedd Abertawe grefftau’r hydref, helfeydd sborion a straeon arswyd i ddiddanu’r plant yr hanner tymor hwn, felly dilynwch nhw ar Facebook, Instagram a Twitter lle byddant yn rhannu popeth sy’n ymwneud ag arswyd!
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau gwych sydd ar gael i’w lawrwytho, fel comics a nofelau graffig, neu gallwch fwynhau llyfrau mis hydref sydd ar gael i blant ac oedolion.
Y cyfan AM DDIM! Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cerdyn llyfrgell
Mae Dinomania hefyd wedi dychwelyd, ar ffurf ychydig yn wahanol… Mae Plantasia yn cynnal Spookasaurus, digwyddiad rhithwir sy’n cynnwys sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r Ceidwad Chris. Ymunwch ag e’ wrth iddo fentro ar daith arswydus yn y jyngl yn chwilio am ddeinosoriaid. Bydd ei daith yn cynnwys llwybrau’r jyngl, yn ogystal â deinosoriaid, crocodeilod, chwilod du a nadroedd – gallwch eu gweld nhw’n bwyta, hyd yn oed!
Er bod Arddangosfa Dylan Thomas ar gau o hyd, dros yr hydref bydd y tîm yn parhau i’ch helpu i archwilio’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ ryngweithiol ac i ddysgu am Dylan, o gysur ein cartrefi ein hunain.
Yr hanner tymor hwn mae llawer o hwyl a gweithgareddau i’w lawrlwytho y gallwch eu mwynhau gartref. Mae hwn yn dymor arbennig i Dylan gan iddo gael ei eni ar 27 Hydref a bu’n aml yn ysgrifennu am yr adeg hon o’r flwyddyn yn ei farddoniaeth. Cadwch lygad am ysgogiadau ysgrifennu, gemau barddoniaeth, chwileiriau a thaflen liwio arbennig.
Cadwch lygad ar Facebook a Twitter am ragor o fanylion, a sgroliwch lawr i weld gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho.
Er na fydd unrhyw ddigwyddiadau cast ynteu ceiniog na disgos Calan Gaeaf eleni, mae digonedd o hwyl fwganllyd y gallwn ei mwynhau gartref. Gallwch dowcio afalau, cerfio pwmpenni, mwynhau helfa sborion ar thema Calan Gaeaf yn eich pentref neu’ch stryd a chreu crefftau Calan Gaeaf, gan gynnwys gwisgo gwisg ffansi! Cadwch lygad ar ein pyst cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon am syniadau…
Ni fyddai’n hanner tymor heb gystadleuaeth Joio Bae Abertawe, ac mae gennym gystadleuaeth a hanner i chi! Hoffech chi ennill tocyn teulu i 4 i Plantasia a’r cyfle i fabwysiadu un o’r anifeiliaid? Gallwch ddewis o Rainbow y macaw, swricatiaid, Clyde y peithon a llawer mwy. Mae gennym hefyd warbac a photel dŵr gwych, drwy garedigrwydd Mountain Warehouse a Go Outdoors!
Mae’r gystadleuaeth yn cau am 7pm nos Sul 1 Tachwedd, a dewisir enillydd erbyn 2pm ddydd Llun 2 Tachwedd.
I ennill y pecyn hanner tymor hwn, ewch yma