fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae'ch Anturiaeth Deuluol yn Dechrau Yma..

Gyda’i leoliad trefol, gwledig ac arfordirol, mae Bae Abertawe’n seren o ran anturiaethau teuluol. Gallwch ddysgu syrffio ar un o draethau gorau Prydain, archwilio Penrhyn Gŵyr (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain) ar gwch neu ar lwybr arfordir darluniadol Cymru, mentro ar wifrau sip, darganfod paradwys trofannol, cael hwyl yng nghyfadeilad parc dŵr, hamdden a champfa mwyaf Cymru, ac archwilio’n hamgueddfeydd rhyngweithiol, o’r radd flaenaf. Os yw hynny’n swnio’n ddelfrydol i chi, rydych chi wedi dod o hyd i’r lle perffaith, ac mae croeso i’r teulu cyfan – hyd yn oed y rhai â phedair coes!