Oriel Dinas Abertawe – Lle celf bywiog ac ysbrydolus i bawb
01792 516900
Partner Swyddogol
Glynn Vivian Art Gallery
Wedi'i gosod yng nghalon y ddinas, mae Oriel Glynn Vivian yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol ac yn oriel o safon fyd-eang ar gyfer Cymru.
Mae'r Oriel yn fan celf bywiog ac ysbrydoledig am ddim i bawb sydd yn darparu lle ar gyfer arddangosfeydd celf hanesyddol, fodern a chyfoes, sgyrsiau, darlithoedd a chynadleddau, cerddoriaeth fyw, perfformiadau a digwyddiadau yng nghalon ardal artistig brysur Abertawe.
Ailagorodd ym mis Hydref 2016 yn dilyn prosiect adfywio mawr i drawsnewid a gwarchod adeilad rhestredig Gradd II* gwreiddiol yr oriel sy'n dyddio o 1911. Mae'r adeilad bellach yn cynnig profiad i ymwelwyr sy'n hygyrch, yn groesawgar ac wedi'i hadfywio ar gyfer y 21ain ganrif.
Mae orielau newydd wedi cael eu hychwanegu, yn ogystal â stiwdios cadwraeth arbenigol, storfa gasgliadau, theatr ddarlithio benodol ag 80 o seddi, llyfrgell ac archifdy, caffi newydd a siop.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian (sefydlwyd ym 1911) wedi datblygu casgliad sylweddol sy'n cynnwys sbectrwm eang o'r celfyddydau gweledol o hen gewri i artistiaid cyfoes, gyda chasgliad rhyngwladol o borslen a tsieni Abertawe.
Mae'r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol o waith artistiaid cyfoes pwysig yn ogystal â sioeau hanes celf. Mae hefyd yn rhoi llwyfan i artistiaid yng Nghymru i gyflwyno eu gwaith mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r tîm dysgu arobryn yn helpu i ddatblygu awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl o bob oedran ddatblygu eu dealltwriaeth o'r byd celf, yn ogystal â rhaglen ddehongli gymunedol gyffrous yn llawn sgyrsiau, darlithoedd, teithiau a digwyddiadau.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac fe'i cefnogir trwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn bartner i’r Tate ac mae'n cyfnewid rhaglenni, syniadau a sgiliau â rhwydwaith Plus Tate o sefydliadau celfyddydau gweledol ar draws y DU.
gwefan www.orielglynnvivian.org
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Ar agor o ddydd Mawrth I ddydd Sul, 10am - 4.30pm.
Ar gauddydd Llun heblaw am Wyliau'r Banc
Gwybodaeth oriau agor
Mynediad am ddim
Cyswllt
Gwobrau
Trip Advisor 2017 Certificate of Excellence
Visit Wales Quality Assured Visitor Attraction
Swansea Bay Tourism Award Highly Commended 2017
Achrediadau
CyMAL Accredited Museum
Family Arts Standards
Visit Wales Quality Assured Visitor Attraction
Tourism Swansea Bay Member
Quality Assured Visitor Attraction
Hygyrchedd