fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Parciau a Gerddi

Share

Parc Singleton a’r Gerddi Botaneg

Swansea Bay Parks and Gardens

Fel parc mwyaf Bae Abertawe, mae gan Barc Singleton erwau o dir gwyrdd a thawel i chi ei archwilio a’i fwynhau. Yn ogystal â hyn, gallwch hurio pedalo a chael hwyl ar y llyn Yn , gadael i’r plantos losgi egni ychwanegol yn yr ardal chwarae i blant, rhyddhau eich Rory McIlroy mewnol gyda rownd o golff gwallgof, a mwynhau’r Gerddi Botaneg godidog. Er eu bod nhw ar eu harddaf yn ystod mis Awst pan gynhelir rhaglen lawn o ddigwyddiadau a theithiau tywys (cadwch lygad ar ein tudalen Digwyddiadau,mae’r Gerddi Botaneg yn hyfryd drwy gydol y flwyddyn. Peidiwch â cholli’r Bont Japaneaidd a’r Gerddi Addurnol! Felly dewch â phicnic, cofiwch yr eli haul!

Hygyrchedd

Mae Parc Singleton a’r Llyn Cychod yn hygyrch i bob grŵp anabledd.


 

Gerddi Clun

Swansea Bay Parks and Gardens

Mae Gerddi Clun, sy’n llawn planhigion prin blodeuog ac sy’n adnabyddus ar draws y byd am gasgliad gwych o rododendronau, yn ychwanegu rhywfaint o fywiogrwydd at Fae Abertawe drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gaeaf yn amser da i weld y Gollen Ystwyth, y Ffigys-gollen Tsieineaidd a Phinwydden Bae Wystrys Awstralia.  Yn y gwanwyn mae’r gerddi’n llawn clychau glas ac mae’r rhododendronau a’r asaleâu ar eu gorau.  Yn yr haf, ewch i weld  briallu’r gerddi yn yr Ardd Gors a sefyll o dan y rheonllys mawr.  Yn yr hydref mae lliw Coeden Haearn Persia ar ei orau.   Mae digon o bethau i ymwelwyr a phobl sy’n dwlu ar blanhigion eu gweld yn y parcdir hwn a gafodd ei wella’n sylweddol dan berchnogaeth y teulu Vivian o 1860.   Roedd y perchnogion hyn dros gyfnod o bron canrif yn deall sut byddai rhywogaeth y rhododendron, a oedd newydd ei darganfod, yn ffynnu yn y pridd asidig a geir ar y llethr hwn sy’n wynebu’r de ac a gynhesir gan y môr.  Ewch i ymweld â’r adeiladau bach hyfryd a godwyd gan y perchennog olaf o’r teulu Vivian er mwynhad ei ferched bach.  Un o’r uchafbwyntiau yn ein calendr digwyddiadau yw gŵyl flynyddol Gerddi Clun yn eu Blodau drwy gydol mis Mai, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Hygyrchedd

Mae rhai llwybrau serth yng Ngerddi Clun a all fod yn anodd i gadeiriau olwyn heb fodur ac i bobl â chadeiriau gwthio. Mae rhai mannau â grisiau ond nid oes unrhyw risiau ar y prif lwybr tarmac sy’n ymlwybro i fyny drwy’r parc.


 

Parc Cwmdoncyn

Swansea Bay Parks and Gardens

Gyda’r cyfuniad perffaith o harddwch naturiol, cyfleusterau ardderchog a rhaglen ddigwyddiadau llawn hwyl, mae werth ymweld â Pharc Cwmdoncyn! Gyda chymaint i’w weld a’i wneud, mae’n arbennig o dda ar gyfer teuluoedd. Beth gallwch chi ei ddisgwyl? Lawnt fowlio, ardal chwarae i blant, llwybrau cerdded, coetir, ystafelloedd te a phedwar cwrt tenis! Byddwch yn siŵr o sylwi ar bresenoldeb un o’n preswylwyr enwocaf, Dylan Thomas. Ysgrifennodd Dylan lawer o ddisgrifiadau annwyl o Barc Cwmdoncyn (un o’r disgrifiadau mwyaf adnabyddus yw “this world within the world of the sea town” yn ei hunangofiant), ac mae llawer o gyfeiriadau ato ar draws y parc, e.e. cerflun coeden o bensil enfawr. Mae hefyd yn rhan o Lwybr Uplands sy’n archwilio ardal Uplands lle ganwyd Dylan a lle treuliodd lawer o’i flynyddoedd cynnar.

Hygyrchedd

Gât 1: Heol y Parc, yn hygyrch i bawb.
Gât 2: Y llwybr cregyn cocos. Ceir llethr 40 gradd yma; mae’n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 3: Pen uchaf Cilgant Penlan. Ceir llethr 40 gradd yma; mae’n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 4: Pen isaf Cilgant Penlan. Ceir llethr 45 gradd yma; mae’n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 5: Clevedon Court. Ceir ramp 10 gradd yma; mae’n hygyrch i bawb.
Gât 6: Y Gelli. Ceir gris yma sy’n arwain at lethr 35 gradd; mae’n hygyrch i rai grwpiau anabledd.


 

Coed Cwm Penllergaer

Swansea Bay Parks and Gardens

Mae Coed Cwm Penllergaer yn lle hudol a dirgel ac mae’n un o’n trysorau cudd. Yn llawn llynnoedd, rhaeadrau, bywyd gwyllt a blodau; dyma fyd natur ar ei orau. Ond cofiwch, bydd yr holl awyr iach a’r harddwch naturiol yna yn sicr o roi chwant bwyd i chi, felly galwch heibio Siop Goffi Coed Cwm Penllergaer. Mwynhewch deisennau cartref blasus, brechdanau ffres neu de prynhawn traddodiadol yn y lleoliad ysblennydd hwn – perffeithrwydd! Peidiwch â dweud wrth unrhyw un, ond rydym hefyd wedi clywed si bod danteithion am ddim i’ch cŵn hefyd …

Hygyrchedd

Mae’r siop goffi yn gwbl hygyrch a darperir parcio i’r anabl, yn ogystal â thŷ bach i bobl anabl a chyfleusterau newid babanod. Mae mynediad i bobl anabl, cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio o amgylch yr ystâd yn gyfyngedig ar hyn o bryd oherwydd bod y tir yn serth yn y safle deniadol hanesyddol hwn. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch Choed Cwm Penllergaer yn uniongyrchol.


 

Plantasia

Swansea Bay Parks and Gardens

Mae Plantasia sy’n dod â’r tu allan dan do, yn hafan drofannol unigryw sy’n llawn planhigion ac anifeiliaid hyfryd. Mae ychydig yn fwy egsotig na’ch parc neu ardd arferol ac mae’n lle bendigedig i ymweld ag ef; gallwch gerdded drwy goedwig law yng nghanol y ddinas! Bydd plant wrth eu bodd yn cwrdd â rhai o breswylwyr Plantasia; gan gynnwys mwncïod tamarin pennau cotwm, cameleonod, dreigiau barfog, peithoniaid Burma, paracitiaid a phryfetach wrth ddysgu am bwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd yn y cwt coedwig law a adeiladwyd yn y dull traddodiadol. Mae yna hefyd barthau trofannol arbennig â hinsawdd sych lle byddwch yn dod o hyd i ffrwythau a phlanhigion egsotig, cacti a llawer mwy. Mwy o wybodaeth am Plantasia.

Hygyrchedd

Mae hygyrchedd yn ardderchog yma, gyda mynediad i gadeiriau olwyn ym mhob rhan o Plantasia. Ceir gwybodaeth lawn d yma.


 

Parc Brynmill

Swansea Bay Parks and Gardens

Mae Brynmill yn barc trefol hynod boblogaidd gyda chyfleusterau rhagorol, sy’n wych ar gyfer teuluoedd. Mae lawnt fowlio, ardal chwarae i blant a llyn. Yr hyn sydd wir yn gwneud Parc Brynmill mor boblogaidd yw ei ddosbartio awyr agored unigryw, y Ganolfan Ddarganfod. Gyda golygfeydd o’r llyn, gallwch wylio adar yn eu cynefin naturiol, yn ogystal â mwynhau celf a chrefft a gemau rhyngweithiol llawn hwyl a sbri. Ffaith ddiddorol – mae Parc Brynmill yn dyddio’n ôl i 1872 ac mae ganddo’r fraint o fod y parc anffurfiol, wedyn ffurfiol, cyntaf yn Abertawe.

Hygyrchedd

Mae Parc Brynmill yn hygyrch i bob grŵp anabledd.


 

Parc Victoria

Swansea Bay Parks and Gardens

Mae Parc Victoria yn boblogaidd gyda phreswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ac mae’n adnabyddus am ei welyau blodau deniadol a’i forderi blodau lliwgar. Wedi’i leoli yn union ar lan y môr gerllaw Neuadd hanesyddol Brangwyn a chyda mwy na digon o feinciau i bawb, mae’n lle perffaith i ymlacio ac edrych ar y byd yn mynd heibio. Yn ogystal â’r golygfeydd gwych a’r arddangosfeydd blodau prydferth, mae’r parc hefyd yn cynnig digwyddiadau difyr ar gyfer pob oedran gyda’i gwrt pêl-fasged, cwrt tenis, rampiau BMX/sglefrio, ardal chwarae i blant ac ardal gemau amlddefnydd (MUGA). Awydd byrbryd? Ewch i’r ciosg lle cynigir amrywiaeth hyfryd o fwyd a diodydd.

Hygyrchedd

Mae Parc Victoria yn hygyrch i bob grŵp anabledd.


 

Gerddi Southend

Swansea Bay Parks and Gardens

Parc gwych yn y Mwmbwls yw hwn. Eisteddwch a mwynhewch olygfeydd gwych Bae Abertawe. Ydych chi’n mwynhau ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar? Rhowch gynnig ar y cwrs golff gwallgof, neu beth am chwarae gêm o boules Ffrengig neu denis? Gwnewch eich hun yn gyfforddus ar un o’r byrddau picnic a gwyliwch eich plant yn cael hwyl yn yr ardal chwarae wych.

Hygyrchedd

Mynediad hawdd i gerddwyr a chadeiriau olwyn/pramiau o Cornwall Place, gyferbyn â Heol y Mwmbwls.


 

Lido a Pharc Blackpill

Swansea Bay Parks and Gardens

Math gwahanol o barc – mae’r un yma’n barc dŵr! Lido Blackpill yw’r unig barc dŵr awyr agored yn Abertawe, ac mae am ddim. Mae’n rhaid mynd yma pan fydd yr haul yn disgleirio; mae ganddo bwll padlo, ardal chwarae i blant, craig ddringo a byrddau picnic. Mae’r parc yn agos iawn at Erddi Clun, felly beth am dreulio’r diwrnod cyfan?


 

Gwobr y Faner Werdd

Swansea Bay Parks and Gardens

Marc rhyngwladol o ansawdd a roddir i barciau a mannau gwyrdd yw Gwobr y Faner Werdd ac rydym yn falch o ddweud bod gan 6 o’n parciau a’n gerddi gwych ni Faner Werdd! Y rhain yw: Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Cwmdoncyn, Parc Victoria, Gerddi Clun a Choed Cwm Penllergaer.


 

Ardaloedd Chwarae Plant

Parc Victoria
Parc Merton
Lido a Pharc Blackpill
Gerddi Southend
Parc Brynmill
Parc Singleton
Bae Bracelet
Parc Cwmdoncyn