Gwyliau fel teulu; cyfle i ymweld â’ch ffrindiau; diwrnod ar y traeth neu drampolîn newydd yn yr ardd?
Beth bynnag fo’ch dymuniad, beth am ei ysgrifennu, ei baentio neu ei arlunio a’i roi mewn jar? Gallech hyd yn oed addurno’ch jar gyda pom-poms, pefr, rhuban neu unrhyw bethau sydd gennych yn y tŷ, a gwneud iddi edrych yn bert iawn.
Os gwnaethoch fwynhau creu eich jar ddymuniadau, gallech greu jar Atgofion y Nadolig a nodi’r holl bethau hyfryd rydych chi’n eu gwneud y Nadolig hwn.
Rhagor o syniadau gweithgareddau
Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn