fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch; a daeth arswyd arnynt. Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; a dyma’r arwydd i chwi: cewch hyd i’r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.”

Luc, Pennod 2, adnodau 8 – 13.

Sawl un ohonom sy’n cofio’r darn hwn o’r Beibl o ddramâu’r geni mewn ysgolion? Oeddech chi wedi eich gwisgo fel bugail neu angel?

Mae’r ddau’n bwysig i stori’r Nadolig. Mae’r bugeiliaid yn ein hatgoffa o genhadaeth Iesu i achub ein heneidiau fel oen aberthol Duw, ac fel negeswyr Duw mae’r angylion yn dod â’r newyddion da i ni.

Nid yw’n rhyfeddod felly ein bod wedi defnyddio angylion i addurno ein coed Nadolig ers amser maith. Yn y gweithgaredd hwn, rydym yn creu ein hangylion papur ein hunain.

Bydd angen

  • Papur lliw
  • Papur gwyn
  • Cerdyn, bydd hen ddeunyddiau pecynnu yn iawn
  • Siswrn
  • Glud
  • Darn arian 10c

Dull

  • Cymerwch ddau ddarn o bapur lliw, 20cm x 20cm.
  • Gwnewch blyg 1cm ar un, gwnewch ail blyg 1cm ac yn y blaen i greu effaith consertina.
  • Ailadroddwch y broses ar yr ail ddarn o bapur lliw.
  • Plygwch un o’r consertinas tua threian y ffordd ar ei hyd a gludwch yr aden i’r corff.
  • Ailadroddwch y broses ar yr ail consertina.
  • Torrwch ddau ddarn cul o bapur gwyn.
  • Gan ddefnyddio’r darn arian 10c, tynnwch lun o ddau gylch ar y cerdyn a’u torri allan.
  • Ailadroddwch y broses gan ddefnyddio’r papur lliw.
  • Gludwch un cylch lliw ar un darn o gerdyn crwn a gwnewch yr un peth eto. Mae angen i chi gael dau ddarn crwn o gerdyn gydag un ochr yn dangos y papur lliw.
  • Cymerwch un darn o bapur gwyn a gludwch ben y papur ar y tu mewn i un o’r consertinas.
  • Gludwch y pen arall ar y tu mewn i’r consertina sy’n weddill a, gan ddefnyddio glud ychwanegol os oes angen, dewch â’r ddau at ei gilydd i greu corff eich angel. Dylai fod gennych ddolen ar y brig er mwyn ei hongian ar y goeden.
  • Cymerwch un o’r cylchoedd a’i ludo y tu mewn i’r cerdyn. Gludwch hwn i waelod y ddolen bapur.
  • Ailadroddwch y broses gyda’r cylch sy’n weddill a dewch â’r ddau ddarn at ei gilydd i greu pen eich angel. Mae angen i’r ochr lliw hardd wynebu tuag allan.
  • Gan gymryd y darn o bapur gwyn sy’n weddill, trowch ef i greu cwlwm a’i ludo gyda’i gilydd cyn ei osod ar yr angel.
  • Da iawn! Rydych chi wedi creu angel hardd i hongian ar eich coeden.

Mwynhewch

Beth am eistedd yn ôl ac edmygu eich angel papur, gan wrando ar y Parry-Isaacs yn canu ‘Fe Ddaw  Bwyd I’w Braidd’.