fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd angen

  • Darn o bapur Nadoligaidd ar gyfer eich coeden
    (bydd rhywbeth dwy ochrog yn gweithio’n dda iawn)
  • Darn bach arall o bapur ar gyfer eich seren/addurn ar ben y goeden
  • Pensil
  • Pren mesur
  • Siswrn
  • Glud
  • Llinyn/ cortyn/ rhuban os hoffech glymu rhai at ei gilydd

Cam 1

Torrwch eich papur ar gyfer y goeden i greu siâp sgwâr – maint ein un ni oedd 15cm x 15cm.

Plygwch y papur yn ei hanner ar letraws.

 

 

Cam 2

Gan gadw’r darn crych a blygwyd (yr ochr hiraf) ar y top, tynnwch linell 15cm o hyd ar draws y top, tua 1cm i lawr o’r ymyl.

 

 

Cam 3

Trowch y papur a thynnwch linell arall hyd at ymyl y papur.

 

 

 

Cam 4

Ar hyd eich llinell hiraf, defnyddiwch bren mesur er mwyn marcio bylchau o 1.5cm.

 

 

 

Cam 5

Gan ddefnyddio’r pren mesur, tynnwch linellau syth o bob marc i ymyl y papur.

 

 

 

Cam 6

Torrwch yn ofalus ar hyd pob llinell rydych wedi’i wneud, o ymyl y papur i’r llinell ar hyd y top.

 

 

 

Cam 7

Agorwch eich siâp coeden.

Os ydych wedi defnyddio papur dwy ochrog, penderfynwch ba batrwm yr hoffech chi ei gael ar y tu mewn/y tu allan.

 

 

Cam 8

Gan ddefnyddio smotyn bach o lud, cyrliwch y gangen ar y gwaelod ar y dde drosodd a’i gludo i ymyl y papur.

 

 

 

Cam 9

Gwnewch yr un peth â’r gangen ar y gwaelod ar y chwith, a’i gludo uwchben hynny.

 

 

 

Cam 10

Gwnewch hyn gyda phob cangen nes eich bod yn cyrraedd y top.

 

 

 

Cam 11

Torrwch ben eich coeden.

Torrwch siâp seren o’r ail ddarn o bapur a’i gludo ar ben eich coeden.

 

 

Cam 12

Os hoffech glymu rhai coed at ei gilydd, gwnewch ddau dwll ym mhob seren a thynnwch linyn tenau drwyddynt. Neu, gallwch eu gludo ar ruban perth fel rydyn ni wedi’i wneud.

 

Rhagor o syniadau gweithgareddau

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn