fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd angen

  • Hen garton wyau
  • Paent brown a brwsh paent
  • Cardbord brown ar gyfer y clustiau a’r cyrn carw – neu gerdyn lliw arall y gallwch ei baentio
  • Tâp gludiog neu lud
  • Pensil
  • Siswrn
  • Llygaid gwgli a phom pom coch i addurno wyneb eich carw

 

Cam 1

Torrwch y cwpanau unigol allan o’r carton wyau a’u paentio’n frown

Paentiwch y cardbord ar gyfer y clustiau a’r cyrn carw’n frown os oes angen i chi wneud hynny.

Gadewch i bopeth sychu.

 

 

Cam 2

Tynnwch lun clustiau a chyrn carw ar y cardbord brown.

 

Cam 3

Pan fyddan nhw’n sychu, torrwch y clustiau a’r cyrn allan yn ofalus.

 

 

 

Cam 4

Glynwch y clustiau a’r cyrn ar eich cwpanau wyau gan ddefnyddio glud neu dâp gludiog.

 

 

 

Cam 5

Addurnwch eich ceirw gyda llygaid gwgli a thrwyn pom pom coch!

 

 

Rhagor o syniadau gweithgareddau

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn