fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae gennym gymaint o draethau yma ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr, roeddem yn meddwl y byddem yn creu Llwybr Traethau 7 niwrnod!

Mae hynny’n gywir… rydym wedi dewis traeth gwahanol ar gyfer pob dydd o’ch gwyliau wythnos o hyd ym Mae Abertawe! Ac, os na allwch chi aros mor hir â hynny, ticiwch y rheini rydych chi’n llwyddo i ymweld â nhw a dewch yn ôl yn fuan i weld y gweddill! Mae gennym lawer mwy na 7 traeth wrth gwrs… fel y gwelwch o’n Llyfryn Traethau… felly efallai y bydd yn rhaid i chi ddychwelyd nifer o weithiau i ymweld â nhw i gyd!

Felly… gadewch i ni ddechrau gyda Bae Abertawe! Mae’r traeth hwn, sy’n agos iawn at ganol y ddinas, yn berffaith ar gyfer mynd am dro ar hyd y prom. Gyda digonedd o le a thywod, mae’n wych ar gyfer chwaraeon dŵr fel padlfyrddio ar eich traed, caiacio, pŵer-farcuta a phêl-foli.

Rhy egnïol? Dadroliwch eich tywel a mwynhewch amser arbennig gyda’ch teulu.

Yn Lido Blackpill, mae pwll diogel i blant sblasio, ardal chwarae i blant a digon o le i gael picnic yn edrych dros Ben y Mwmbwls – hyfryd!

Am gael cappuccino? Yn dyheu am gael hufen iâ? Dydych chi byth yn bell o brofiad bwyd gwych ar hyd Bae Abertawe. Os ydych am fwynhau paned a’r olygfa neu goctel bach (neu moctel sydd yr un mor flasus) a brecinio blasus, The Secret Beach Bar & Kitchen yw’r lle delfrydol! Mae croeso i’ch cyfaill gorau yma hefyd… a gall hyd yn oed fwynhau ei hufen iâ i gŵn ei hun!

Wrth ystyried ein hymwelwyr ieuengaf, mae cyfyngiadau cŵn yn ystod yr haf ar hyd rhannau penodol o’r bae (cadwch lygad am yr arwyddion ar fannau mynediad i’r traeth).

Gan symud o gwmpas yr arfordir, ein stop nesaf ar y Llwybr Traethau yw Bae Bracelet. Mae’n anhygoel meddwl bod y darn hardd hwn o arfordir gwyllt mor agos i’r ddinas. Mae Bae Bracelet yn falch o’i Wobr Arfordir Glas ac yn cynnig cyfleoedd rhagorol i archwilio pyllau trai, felly dewch â bwced a rhwyd gyda chi ar gyfer antur o dan y dŵr.

Oes awydd bwyd arnoch? Ewch i The Lighthouse am damaid blasus i’w fwyta neu hufen iâ a mwynhau golygfeydd hyfryd Bae Bracelet a Goleudy’r Mwmbwls.

Ond mae’n rhaid i’ch anifail anwes nofio yn un o’n traethau gwych eraill dros yr haf!

Nid yw’r trydydd traeth ar y llwybr yn rhy bell o gwmpas yr arfordir! Mae Bae Langland yn berffaith ar gyfer syrffio! Neu gallwch roi cynnig ar arfordiro, chwilio pyllau gyda’r plant, neu ymlacio gyda phicnic ar y traeth. Mae Bae Langland yn sicr o roi ymdeimlad o foddhad i chi, ac yn siŵr o wneud i chi wenu.

Rhowch drît i’ch hunan gyda hufen iâ cartref sy’n cael ei weini yn y caffi gerllaw. Dyma rywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud ar ôl prynhawn llawn antur yn archwilio’r rhan hyfryd hon o dywod aur a chlogwyni. Neu os ydych chi awydd tretio eich hun i fwyd môr lleol (gan gynnwys cocos, cimwch a chregyn gleision ffres), ewch i Langland’s Brasserie a mwynhewch giniawa awyr agored sy’n edrych dros y traeth.

Mae’n dda gwybod – mae achubwr bywydau yn patrolio’r traeth o fis Mai i fis Medi, gan ei wneud yn opsiwn nofio diogel os ydych chi a’r rhai bach awydd nofio yn y môr!  Hefyd, mae gan Fae Langland Faner Las enwog – felly dyma’r lle delfrydol ar gyfer hwyl ddiogel i’r teulu!

Mae Bae Langland yn lle poblogaidd sy’n addas i’r teulu, gyda llawer o adeiladu cestyll tywod difrifol, felly gofynnir i gŵn ymweld ag un o’n traethau eraill yn ystod yr haf.

Ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr er mwyn archwilio’n traeth nesaf….

… Gan gyflwyno Bae Caswell! Mae’r rhan hyfryd hon o dywod aur yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau traeth; gan gynnwys syrffio, dringo creigiau, arfordiro a hyd yn oed abseilio.

Mae’n berffaith ar gyfer diwrnod mas gwych i’r teulu gydag achubwyr bywyd yn patrolio yn yr haf a chyfleusterau defnyddiol gerllaw – felly os ydych yn cyrraedd heb eich bwced a rhaw, does dim problem! Mae gan Fae Caswell holl nodweddion hanfodol glan y môr gyda thywod aur, môr sy’n addas ar gyfer syrffio ac amgylchedd cyfeillgar llawn hwyl ar ddiwrnod braf o haf!

Ac mae’n fae arobryn gyda statws y Faner Las! Mae’n hawdd ei gyrraedd, gyda safle bws a maes parcio gerllaw. Gofynnir i’n ffrindiau blewog ymweld ag un o’n traethau gwych eraill yn ystod misoedd yr haf.

Yn dilyn arfordir penrhyn Gŵyr, ein traeth nesaf yw Bae y Tri Chlogwyn! Yn berffaith ar gyfer y rheini sy’n chwilio am anturiaethau, mae gan Fae y Tri Chlogwyn deimlad o fod ym mhell o bopeth ac mae wedi’i amgylchynu gan dwyni tywod, clogwyni a morfeydd heli.

Mae popeth i’w gael yma – dringo creigiau, abseilio a phadlfyrddio ar eich traed; nid ydych byth yn bell o brofiad cyffrous!

Ydych chi wedi anghofio eich pecyn cinio? Galwch heibio i’r Little Valley Bakery i gael bynsen sinamon wedi’i phobi’n ffres neu sosej-rôl i fynd â chi gyda chi!

Ond hei, dyma’r rhan ddifrifol – mae Bae y Tri Chlogwyn yn hyfryd, ond mae ganddo hefyd ochr wyllt. Mae’n well gwirio amserlen y llanw cyn gwneud unrhyw weithgaredd gan fod llifoedd cryf iawn yn y bae.

Traeth sy’n caniatáu cŵn yw hwn, sy’n golygu bod croeso i’n ffrindiau blewog drwy gydol y flwyddyn.

Nesaf ar ein Llwybr Traethau mae Bae Porth Einon! Mae Porth Einon yn bentref prysur ar benrhyn Gŵyr sydd â digonedd o swyn glan môr, sy’n agos iawn at y traeth. Felly, mae’n wych ar gyfer diwrnod ar y traeth gyda’r teulu – mae’n hawdd ei gyrraedd, yn hawdd parcio yno neu i gyrraedd ar fws, ac mae digon o gyfarpar traeth hanfodol gerllaw. Am ymestyn eich coesau? Yna ewch ar Lwybr Arfordir Gŵyr unwaith eto neu archwiliwch Dŷ Halen hynafol Gŵyr ar hyd y bae.

Ydych chi awydd tamaid o ginio? Ewch i The Ship Inn am damaid i’w fwyta ac efallai blasu cwrw lleol o benrhyn Gŵyr. Mae Jin Gŵyr hefyd ym Mhorth Einon… cewch weld ble maen nhw’n gwneud jin mewn sypiau bach yn seiliedig ar blanhigion a gasglwyd ar benrhyn Gŵyr a mwynhau sesiwn flasu yn yr ardd gin (cadwch le ymlaen llaw).

Traeth Baner Las yw Porth Einon gyda’r sicrwydd o achubwr bywyd ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi. Mae cyfyngiadau cŵn ar waith yn ystod yr haf ar hyd rhannau penodol o’r bae (cadwch lygad am yr arwyddion ar fannau mynediad y traeth).

Ac wrth i ni ddod i ddiwedd y Llwybr Traethau hwn… byddai rhai yn dweud ein bod wedi cadw’r gorau tan y funud olaf! Gyda 3 milltir o dywod euraidd ac arfordir gwyrdd iraidd, mae Bae Rhosili yn un o dri o draethau gorau’r DU ers tair blynedd yn olynol yng ngwobrau Travellers’ Choice Tripadvisor (ac mae hynny’n ddigon teg!) Ym mhen mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr (yr ardal gyntaf yn y DU i dderbyn statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), mae nifer mawr o resymau i ymweld â Rhosili gan gynnwys y tirnod eiconig, Pen Pyrod a golygfeydd syfrdanol o frig Rhosydd Rhosili.

Hoffi syrffio? Byddwch yn dwlu ar Fae Rhosili. Mae chwaraeon dŵr yn sicr ar gael, ynghyd â rhai prydau lleol blasus yn y Bay Bistro, The Lookout neu Westy Worm’s Head, lle gallwch fwynhau tamaid i’w fwyta wrth fwynhau’r golygfeydd syfrdanol!

A chyda thair milltir o dywod i redeg arno (drwy’r flwyddyn heb unrhyw gyfyngiadau) bydd eich ffrindiau pedwar coes yn dwlu arno hefyd!

Parchwch y tonnau – gall y llanw ddod i mewn yn gyflym yma ac mae llifoedd cryf, felly mae angen i chi wirio amserlen y llanw cyn i chi ddechrau ar antur ar draws y sarn i Ben Pyrod neu i ynys lanwol Burry Holms. Gweler ein tudalen Chwarae’n Ddiogel i gael gwybodaeth am sut i gael hwyl ddiogel yn y môr ar ein traethau i gyd!

Dyma gipolwg yn unig o’r traethau rydym ni wedi dewis eu cynnwys fel rhan o’r Llwybr Traethau hwn… ond mae gennym lawer mwy, gan gynnwys Bae Oxwich, Rotherslade, Horton a Llangynydd i enwi ond rhai! Ewch i’n Tudalennau Traethau am ragor o wybodaeth a chofiwch ein tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol – byddem wrth ein bodd yn gweld eich anturiaethau ar y Llwybr Traethau! Pa draeth fydd eich #LleHapus? @croesobaeabertawe #LlwybrauBaeAbertawe #LleHapus