fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dewch i archwilio erwau o fannau agored eang ym mharc dinesig mwyaf Abertawe, Parc Singleton ac os ydych chi’n mynd oddi ar y llwybr arferol i archwilio’r coetir, cofiwch gadw llygad am frain, robiniaid cochion, drywod a hyd yn oed titwod cynffon-hir – mae cynifer o adar yn byw ym Mharc Singleton.

Sefydlwyd Parc Singleton fel parc cyhoeddus dros 100 mlynedd yn ôl ac mae ganddo lawer o hen goed gyda thyllau bach sy’n berffaith i ystlumod, deloriaid y cnau a jac-y-dos guddio ynddynt. Mae digonedd o feinciau lle gallwch gael seibiant ar eich troeon hefyd neu ewch â blanced picnic a dewiswch eich hoff le i ymlacio. Caewch eich llygaid, gwrandewch ar yr adar a mwynhewch fod yng nghanol byd natur yn y parc enfawr, eang hwn, sydd â chysylltiadau gwych â chludiant cyhoeddus o Orsaf Fysus Abertawe a llwybrau beicio.

 

 

 

 

Gallwch fwynhau cinio yn The Secret Beach Bar and Kitchen ar bromenâd Abertawe lle ceir golygfeydd ar draws Bae Abertawe tuag at y Mwmbwls. Mae’n daith fer yno ar droed (neu yn y car) o Barc Singleton. Caiff y bwydlenni eu creu gan eu pen-cogyddion talentog, a chaiff yr holl brydau eu paratoi’n ffres yn ddyddiol ac mae’r holl gynnyrch yn fwyd lleol.  Mae’r fwydlen yn gymysgedd modern o fwyd Prydeinig modern a seigiau Cymreig traddodiadol.

Yn ystod y dydd gallwch gerdded i mewn, eistedd ar y teras lle ceir golygfeydd o’r môr wrth fwynhau coffi crefftwr a brecwast blasus. Gyda’r hwyr gallwch fwynhau stecen flasus a chael profiad bwyta clyd. Gallwch hefyd gael cludfwyd cyflym ar gyfer eich tro o uned gludfwyd The Secret. Maent yn croesawu’r holl deulu gan gynnwys eich cyfeillion 4 coes, sy’n gallu mwynhau Puppuccino wrth i chi fwynhau eich hoff fwyd!

Ar ôl cinio, gallwch fynd ar daith fer ar y bws (neu yn y car) i draeth hyfryd Bae Bracelet, ym Mhen y Mwmbwls. Mae ei draethlin greigiog yn arobryn, mae ganddo olygfa wych o’r goleudy a dyma’r lle perffaith i gael hufen iâ… ac ychydig o archwilio pyllau trai.

Cadwch lygad am gregyn crachod, llygaid maharen (yn bwyta algâu oddi ar y creigiau), crancod y traeth a chrancod meddal. Gallwch dreulio ychydig funudau’n cerdded ar hyd y draethlin i weld yr hyn sydd wedi cael ei olchi i’r lan… efallai cragen wystrysen… neu ‘bwrs y fôr-forwyn’ (plisgyn ŵy o aelod o deulu’r siarcod). Beth am ddysgu am y gwahanol fathau o wymon… mae hyd yn oed un o’r enw ‘Letysen fôr’! Ar y glannau isaf gallwch weld adeileddau anhygoel a grëwyd gan anifail gwych o’r enw’r llyngyren diliau rîff… ond byddwch yn ofalus gyda’r rhain, maent yn fregus iawn a chofiwch gadw llygad am y llanw! Ac os oes gennych chi unrhyw amser yn weddill ar ôl i chi archwilio’r pyllau trai, ewch i Warchodfa Natur Pen y Mwmbwls sydd gerllaw.

 

 

Dafliad carreg o Fae Bracelet, gallwch fwynhau pryd gyda’r hwyr yn Lighthouse Brasserie, gyda golygfeydd o Oleudy’r Mwmbwls a Bae Bracelet. Mae The Lighthouse Brasserie yn cynnig profiad bwyta hamddenol drwy’r dydd yng nghanol y Mwmbwls. Mae’r fwydlen yn cynnig amrywiaeth o seigiau Prydeinig clasurol a bwyd sydd wedi’i ysbrydoli gan yr Eidal, yn ogystal â phrydau feganaidd a llysieuol arbennig.

 

 

 

Ydych chi am dreulio mwy nag un diwrnod yn cwblhau Llwybr Bywyd Gwyllt Abertawe? Arhoswch dros nos yn Abertawe a gallwch fwynhau seibiant byr yn lle!

Awgrym da: Cymerwch gip ar y Llwybrau Bywyd gwyllt eraill ar dudalen Llwybrau Bae Abertawe!

A chofiwch ein tagio ni yn eich lluniau ar Facebook ac Instagram – @CroesoBaeAbertawe a defnyddiwch stwnshnodau #LlwybrauBaeAbertawe #LleHapus