fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mwynhewch dro hamddenol drwy ganol y ddinas ar y llwybr hwn y gallwch gymryd  cymaint o amser ag y dymunwch yn ei ddilyn, gan fwynhau rhai o uchafbwyntiau diwylliannol Abertawe.

Uchafbwyntiau

Llwybr

• Dechreuwch yn Oriel Gelf Glynn Vivian, sydd ar hyn o bryd yn arddangos nifer o eitemau o’r gyfres deledu boblogaidd, His Dark Materials, gan gynnwys gwisgoedd a phropiau.

• Cerddwch ar draws i’r Stryd Fawr, trowch i’r dde wrth yr orsaf drenau ac ewch i lawr tuag at ganol y ddinas, gan fynd heibio murlun anferth Elizabeth Taylor gan yr artist stryd Pure Evil ar y tu allan i adeilad Theatr Volcano.

• Ewch yn syth ymlaen drwy Castle Street, efallai yr hoffech ymweld ag Oriel Elysium ar College Street, ond dylech edrych ar y cerflun sy’n debyg i ddeilen a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas yn Sgwâr y Castell, y mae ei eiriau wedi’u harysgrifio yn y garreg o amgylch y ffynnon.

• Cerddwch i lawr Wind Street ac i Somerset Place i ymweld â’r arddangosfa Dwlu ar y Geiriau yng Nghanolfan Dylan Thomas sy’n adrodd hanes bywyd, gwaith ac etifeddiaeth Dylan, ac sydd hefyd yn cynnwys ardal i blant lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft.

Love the Words

• Wrth adael arddangosfa Dylan Thomas, cerddwch ar hyd East Burrows Road, gan droi i’r dde i mewn i Cambrian Place. Mae ei deras Sioraidd wedi bod ar y sgrîn deledu, yn fwyaf diweddar yn nrama S4C am fywyd y gyfansoddwraig a’r soprano, Morfydd Owen. Allwch chi gredu bod y stryd hefyd wedi’i defnyddio fel lleoliad yn Efrog Newydd ar gyfer cyfres fywgraffyddol Dylan Thomas, Set Fire to the Stars, ar gyfer yr olygfa lle mae Dylan yn baglu gyda’i ffrind a’r bardd, John Malcolm Brinnin?

• Cerddwch heibio adeiladau’r Gyfnewidfa sydd wedi ymddangos ar gyfres Doctor Who y BBC ddwywaith, a gwesty’r Queens Hotel. Yn syth o’ch blaen mae Amgueddfa Abertawe, amgueddfa hynaf Cymru, a ddisgrifiwyd gan Dylan fel ‘yr amgueddfa a ddylai fod mewn amgueddfa’. Mae ei chasgliad helaeth o wrthrychau’n adrodd hanes pobl a lleoedd Abertawe, a’u lle yn y byd ehangach. Efallai y bydd y cerddwyr ifanc yn mwynhau chwilio am lygod hanesyddol yn Llwybr Llygod yr amgueddfa.

• Gan adael Amgueddfa Abertawe, cerddwch o gwmpas i gefn yr adeilad a gorffennwch eich llwybr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Archwiliwch stori Cymru drwy amrywiaeth o arddangosiadau’r amgueddfa sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwydiannol a morwrol gyfoethog y genedl. Cewch groeso cynnes yn y caffi ac mae ardal chwarae i blant yno hefyd.

Map