fbpx
St David’s Place
Ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

HQ Urban Kitchen

Caffi menter gymdeithasol cyfeillgar yng nghanol dinas Abertawe. Fel menter gymdeithasol, rydym yn ofalus iawn gyda phopeth rydym yn ei wneud. Mae ein pen-cogydd arbennig wedi creu bwydlen o fwyd blasus gan ddefnyddio cynnyrch o safon (a lleol lle bo'n bosib).

Make a booking

http://www.hqurbankitchen.co.uk

Partner Swyddogol

Partner Swyddogol

HQ Urban Kitchen

Caffi menter gymdeithasol cyfeillgar yng nghanol dinas Abertawe. Fel menter gymdeithasol, rydym yn ofalus iawn gyda phopeth rydym yn ei wneud. Mae ein pen-cogydd arbennig wedi creu bwydlen o fwyd blasus gan ddefnyddio cynnyrch o safon (a lleol lle bo'n bosib). Rydym yn gweini brecwast, brecinio, cinio a danteithion blasus.

Gallwch fwynhau ein bwyd a diod blasus naill ai gyda ni neu fel cludfwyd.

Ac mae gennym far gyda thrwydded lawn, felly gallwch fwynhau gwydriad bach o win gyda'ch cinio.

Ein caffi eang cyfeillgar (yn yr hen orsaf heddlu) yw'r lleoliad perffaith ar gyfer cwrdd â ffrindiau neu dreulio amser yn mwynhau llyfr yn dawel. Gyda Wi-Fi cyflym, digonedd o socedi trydan a bwydlen o fwyd a diod blasus, byddwch chi am aros am byth!

A phan mae'r haul yn disgleirio, beth am fynd i'n gardd hyfryd am ginio blasus yn yr awyr agored. Ein gwerddon eang a thawel yw'r lle perffaith i ymlacio - trysor cudd yng nghanol Abertawe.

Ymwelwch â ni heddiw i brofi'r hyn sy'n gwneud HQ Urban Kitchen yn berffaith ar gyfer eich holl anghenion. Gallwch hyd yn oed ein llogi ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu!

Dewisiadau feganaidd a heb glwten ar gael. Addas i gŵn.

HQ Urban Kitchen
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Croeso i blant Wheelchair access Adloniant nos Croeso i deuluoedd Trwyddedig Cerddoriaeth fyw Ardaloedd i anifeiliaid anwes Cludfwyd Toiledau Wi-Fi Cyfleusterau cyfarfod Toiled Hygyrch Groups Welcome

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Diwrnodau agored

MON TUE WED THU FRI SAT SUN
Yes Yes Yes Yes Yes Yes No

Oriau agor

9am - 4pm (bwyd tan 3pm).

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwyliau banc.

Cyswllt

Cyfeiriad post

The Old Police Station
Llys Glas
37 Orchard Street
Swansea

SA1 5AJ

www.hqurbankitchen.co.uk

Bwyd

  • Cynnyrch lleol
  • Cymreig
  • Baked Goods
  • British

Gwybodaeth deiet

  • Dim glwten
  • Llysieuiol
  • Fegan
  • Dim llaeth

Hygyrchedd