fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Whoops!

This page seems to have gone walkies.

We’re really sorry for any inconvenience caused. We’ve done our best to make everything really easy to find, so please browse the site and we’re sure you’ll find what you’re looking for. Alternatively, you can pop us a quick email– we would love to hear from you.

You can browse the website by:

Many thanks,
The Visit Swansea Bay Team

Dewch i Fae Abertawe
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Rhandy hunangynhwysol ar y llawr gwaelod ym mhentref y Crwys. Taith fer mewn car o draethau penrhyn Gŵyr a dinas Abertawe.

Make a booking

http://

Partner Swyddogol

Partner Swyddogol

Mae pentref tawel a phert y Crwys mewn man canolog ar benrhyn Gŵyr - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain.

Daith fer i ffwrdd mewn car, ceir traethau hyfryd Gŵyr gyda'u chwaraeon dŵr a Llwybr yr Arfordir sy'n rhoi golygfeydd arbennig i gerddwyr o'r glannau trawiadol. Hefyd o fewn pellter rhwydd, mae canol dinas Abertawe gyda'i farina a'i gyfleusterau hamdden ardderchog. Gerllaw, ym mhentref Tregŵyr, mae cyswllt rheilffordd â gorllewin Cymru, Abertawe a Chaerdydd.

Mae'n rhandy hunangynhwysol ar y llawr gwaelod yn gysurus, gyda phob cyfleuster, gan gynnwys gwres canolog. Mae gwely dwbl cyfforddus yn yr ystafell wely a chypyrddau dillad â digon o le ynddynt. Darperir dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt.

Mae cegin dull gali yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, ffwrn a hob trydan a microdon.

Yn yr ystafell fyw mae teledu 32 fodfedd â sgrîn fflat gyda phecyn Sky llawn, gan gynnwys ffilmiau a chwaraeon. Mae'r ystafell fyw yn edrych dros batio preifat ac mae gan yr ardd yn y cefn olygfa o gaeau a choetiroedd. O flaen yr eiddo mae lawntiau a lle parcio oddi ar y ffordd o flaen y rhandy.

Mae'r ystafell ymolchi'n cynnwys cawod (â dau ris i'w chyrraedd), basn ymolchi a thoiled. Mae pwynt siafio hefyd.

Yn y pentref mae siop Spar a swyddfa bost a thafarn y Poundffald sy'n gweini bwyd blasus trwy'r dydd. Funudau i ffwrdd ym mhen arall y pentref mae Clwb Golff a Bwyty Gŵyr.

Gyferbyn â'r eiddo mae ardal goediog fach lle mae llwybr parhaol drwy'r coed wedi cael ei adeiladu.

"Trysor o le, gyda phopeth y gallai fod ei angen arnom i wneud ein harhosiad yn eich rhandy hyfryd yn ddifyr dros ben."
Sue a Bob, Nottingham.

"Dyma le arbennig - noddfa hyfryd, lân a chlyd i ddau ar benrhyn hardd Gŵyr."
Pat a Dick, Uxbridge.

Cyfleusterau

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No No No No No No No No No No No

Diwrnodau agored

MON TUE WED THU FRI SAT SUN
No No No No No No No

Oriau agor

Gwybodaeth oriau agor

Cyswllt

Cyfeiriad post


Gwobrau

Achrediadau

Hygyrchedd