Go Ape yw antur ym mrigau'r coed pennaf y DU. Ewch i Fargam i gael hwyl yn y coed, gan wynebu gwifrau sip, siglenni Tarzan ac ysgolion rhaff.
0845 094 8741
Partner Swyddogol
Go Ape Margam
Atyniad a dderbyniodd glod uchel yng Ngwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2012.
Antur ym mrigau'r coed yw Go Ape yng nghanol Parc Gwledig Margam ger Port Talbot. Rydym yn cymryd un goedwig doreithiog werdd a thalp iach o olygfeydd trawiadol; ac yn eu cyfuno ag ambell wifren uchel ym mrigau'r coed, mannau lletchwith i'w croesi a gwifrau sip cyffrous; rhaid gorffen y cyfan â dos da o bobl sy'n chwilio am eu Tarzan mewnol.
Mae'r canlyniad yn drawiadol. Mae profiad Go Ape yn cynyddu'r adrenalin, yn cael pobl i fynd y tu allan i'w hardal gysur ac uwchlaw pob dim (esgusodwch y jôc), mae'n llawer o hwyl.
Mae ein hantur gyntaf i groesi'r ffin yn nhiroedd y parc gwledig hardd hwn, sy'n cynnwys 1,000 erw o barcdir godidog a'r hyddgre mwyaf o geirw yng Nghymru. Mae gan Go Ape Margam y Siglen Tarzan fwyaf hefyd - bydd rhai i chi baratoi eich hun at naid o ffydd, sy'n cynnwys cwymp o chwe metr sy'n corddi'r stumog.
Un o'r pethau gwych am Go Ape yw ei fod yn dod â phobl ynghyd.Mae'n ffordd ddifyr o dreulio amser gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Mae ein cwsmeriaid yn gweld bod pob cyfeillgarwch yn tyfu pan fyddant ar y cwrs. Efallai'r ymdeimlad hwnnw o brofiad a rennir, neu fynd yn rhy agos at natur, neu efallai cael hwyl yn y coed gyda'ch llwyth sy'n dod â gwên i'ch wyneb.
Alla' i fynd i Go Ape?
Isafswm oedran - 10 oed
Isafswm taldra - 1.4m (4tr7")
Uchafswm pwysau - 20.5 stôn (130kg)
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | No |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Open 9am - 5pm.
Cyswllt
Gwobrau
Achrediadau
We're Good to Go
Tourism Swansea Bay Member
Hygyrchedd