Mae Parc Cabanau Gwyliau Summercliffe yn 300 llath o Fae Caswell, lleoliad delfrydol i deuluoedd ac ar gyfer caiacio, pysgota, chwaraeon dŵr a gweit
01792 233599
From * * To * * *
Caswell Holiday Chalets and Gower Coast Ltd
Mae Parc Cabanau Gwyliau Summercliffe ar benrhyn deniadol a hynod boblogaidd Gŵyr gyda'i draethau a'i gefn gwlad trawiadol. Mae'r parc yn 300 llath o Fae Caswell sy'n ddelfrydol i deuluoedd ac ar gyfer caiacio, pysgota, chwaraeon dŵr a gweithgareddau awyr agored eraill. Ar gyfer y rheiny sy'n dwlu ar gerdded, mae Llwybr Arfordir Cymru yn gwau ei ffordd drwy draethau hyfryd yr ardal, megis Bae Langland, Cildraeth Brandy, Pwll Du, Bae'r Tri Chlogwyn a llawer mwy.
Mae'r Parc Cabanau Gwyliau'n daith fer yn y car o bentref pysgota pert y Mwmbwls gyda siopau di-ri’ a chyffro bariau gwin, bwytai, tafarndai a chaffis - rhywbeth i bob aelod o'r teulu. Mae rhai o'r atyniadau poblogaidd i dwristiaid yn cynnwys Castell Ystumllwynarth o'r Oesoedd Canol, goleudy'r Mwmbwls, Caffi Verdi's a Siop Hufen Iâ Joe's, a bydd y pier Fictoraidd yn ailagor yn fuan hefyd, gyda'i lwybrau estyll a'i ganolfan adloniant i deuluoedd. Mae promenâd y Mwmbwls hefyd yn lle poblogaidd iawn i fynd am dro neu feicio, neu gallech deithio ar hyd y prom ar Drên Bach Bae Abertawe.
Mae dinas Abertawe'n 5 milltir i ffwrdd lle gallwch archwilio'n dinas wrth y glannau a mwynhau bwyd môr lleol wrth edrych dros y Marina. Mae marchnad dan do enwog yn Abertawe hefyd sy'n cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch cartref megis pice ar y maen, a gallwch hefyd roi cynnig ar gocos a bara lawr lleol Penclawdd.
Mae'r cabanau gwyliau coed cedrwydd mewn gerddi wedi'u tirlunio, funudau yn unig o Fae Caswell. Mae amrywiaeth o lety ar wahân a rhai pâr, gydag un neu ddwy ystafell wely, sydd â lle i hyd at 6 o bobl. Mae pob caban gwyliau'n cynnwys teledu/chwaraewr DVD, cegin, ystafell fyw/fwyta, ystafell ymolchi neu gawod. Darperir duvets, gobenyddion a blancedi. Mae trydan wedi'i gynnwys ym mhris y rhan fwyaf o'r cabanau.
Caniateir cŵn mewn rhai cabanau - codir tâl o £20 y ci.
Gellir parcio ceir ger y caban neu mewn maes parcio cymunedol gerllaw.
Mae seibiannau byr ar gael y tu allan i dymor yr haf. Ffoniwch am ddyfynbris.
Sue ac Alun Morgan.
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
No | No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | No | No |
Cyswllt
Adolygiadau
Croeso Cymru
From * * To * * *
Tariffau