Dyma gyfle i gamu'n ôl i fywydau dynion, menywod a phlant oes Victoria, a fu'n rhan o'r chwyldro diwydiannol yn ne Cymru a newidiodd y byd.
01639 636674
http://www.nationaltrust.org.uk/aberdulais
Partner Swyddogol
Aberdulais National Trust
Chwyldro diwydiannol wedi'i bweru gan ddŵr ers 1584!
Darganfyddwch hanes arloesol Aberdulais wrth ddefnyddio'i dirwedd 'Oes yr Iâ' a'i raeadrau syfrdanol i bweru diwydiannau drwy'r oesoedd ac i'r dyfodol.
Ers cychwyn cyntaf y chwyldro diwydiannol, mae llawer o ddiwydiannau wedi ffynnu yma, o Waith Copr cyntaf Prydain i Waith Tun prysur Fictoraidd a oedd yn darparu tun i bedwar ban byd. Bellach, yn gweithio law yn llaw â chadwraeth, twristiaeth yw'r diwydiant sy'n ffynnu – felly mae llawer mwy o hwyl i'w chael yn Aberdulais erbyn hyn, a llawer llai o lwch!
Gwyrdd a Gwych
Heddiw, mae Aberdulais yn ymfalchïo mewn hunangynhaliaeth, gan ddarparu trydan gyda'i dyrbin danddeaerol ac olwyn ddŵr fwyaf Ewrop. Dyma'r gweddillion hynaf sy'n goroesi sy'n adrodd straeon gorffennol cynhyrchu tun arloesol Prydain.
Ystafell De'r Hen Ysgoldy
Yn Oes Fictoria, roedd yr hen ysgoldy yn meithrin y meddwl. Heddiw, mae'n meithrin y corff a'r enaid. Mae'r hen ysgoldy bellach yn ystafell de gysurus sy'n cynnig cynnyrch lleol a thraddodiadol i'r teulu cyfan.
Archwilio, cael hwyl a darganfod yn yr unlle
Archwiliwch yr adfeiliau, dysgwch am yr archaeoleg, rhowch gynnig ar y gwisgoedd a'r gweithgareddau i'r teulu. Yna, wedi mwynhau picnic uwchben y rhaeadr a gweld yr olwyn ddŵr enfawr yn troi*, beth am wylio ffilm neu fynd i'r siop anrhegion am ychydig o therapi manwerthu? Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd chi, dyw'r gorffennol erioed wedi bod yn gymaint o hwyl!
*Mae'r olwyn ddŵr a'r tyrbin yn ddibynnol ar lefelau dŵr a gwaith cadwraeth.
Yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn
Croesewir cŵn ar dennyn.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Gwybodaeth oriau agor
Please go to the downloads section for opening times and admission prices
Cyswllt
Aberdulais National Trust
Aberdulais
Neath
SA10 8EU
Gwobrau
Swansea Bay Tourism Award: Best Attraction (2014)
Trip Advisor Certificate of Excellence 2015
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Trip Advisor - Certificate of Excellence 2014
Trip Advisor - Certificate of Excellence 2015
Hygyrchedd