Gwybodaeth Hygyrchedd Sioe Awyr Cymru
Mae mynediad i Sioe Awyr Cymru am ddim, a bydd mannau gwylio da i’w cael ar Brom Abertawe sydd â llwybr gwastad yn ogystal â 2 ardal wylio i bobl anabl:
Ger y Senotaff ar y promenâd
Canolfan Ddinesig
Toiledau a newid
Bydd toiledau hygyrch yn ogystal â chyfleuster ‘Changing Places’ (toiled a lle i newid) ar gael yn y Ganolfan Ddinesig ac yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr 360. Mae digon o le yn yr Uned Changing Places, a cheir toiled, sinc, mainc newid a theclyn codi.
Mae toiled a chyfleuster Changing Places hefyd ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a’r LC yn ystod oriau agor.
Cymorth cyntaf
Bydd dwy babell cymorth cyntaf ar gael yn y Sioe Awyr â gweithwyr cymorth cyntaf cymwys yn bresennol ar bob adeg. Gofynnwch i stiward os oes angen cymorth meddygol arnoch.
Cysylltwch â
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 635428.