fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ysgrifennu i Blant, gydag Eloise Williams

1pm – 3.30pm

27/05/17

Hoffech chi ysgrifennu i blant? Ydych chi’n greadigol? Ydych chi’n frwdfrydig? Oes lleisiau yn eich pen? Mae gan Eloise Williams ateb cadarnhaol i’r cwestiynau hyn, ac os oes gennych chi hefyd yna mae hi am eich helpu.
Dewch ac ymunwch â gweithdy a fydd yn eich helpu chi i gysylltu â’ch plentyn mewnol. Rhowch bensil ar bapur a dewch i chwarae gyda geiriau. Dewch i ddarganfod sut i ysgrifennu straeon y bydd plant am eu darllen. Croeso i bob oedolyn. Nid oes angen profiad.
RHYBUDD: Bydd disgwyl i chi gael hwyl.
Mae Eloise yn byw ger y môr, lle mae’n hoffi cerdded ei chi, Watson Jones, a chasglu gwydr y môr yn obsesiynol. Bu ei llyfr cyntaf, ‘Elen’s Island’ (Firefly Press 2015), yn un o lyfrau dethol calendr Adfent Booktrust yn 2016, ynghyd â goreuon fel ‘Harry Potter and the Philosopher’s Stone’ a ‘Mog’s Christmas’ gan Judith Kerr. Mae ei hail lyfr, ‘Gaslight’ (Firefly Press 2017) yn stori waedlyd wedi’i gosod yng Nghaerdydd Oes Fictoria ac fe’i lansiwyd yng Ngw ˆyl Llên Plant Caerdydd. Mae’n gwybod sut i wisgo sgarff mewn ffordd drawiadol.
Pris Llawn £10, Consesiynau £7, PTL Abertawe £4.

Canolfan Dylan Thomas:

Dyddiad
27 Mai 2017
Lleoliad
Dylan Thomas Centre