Dyddiad: Dydd Sadwrn 23 Chwefror – dydd Sul 3 Mawrth 2019
Amser: 10am – 5.30pm
Lleoliad: Canolfan Treftadaeth Gŵyr SA3 2EH
Mwynhewch wythnos llawn hwyl gyda digwyddiadau ar thema môr-ladron yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr! Hwyliwch y môr yn eich dychymyg yn ein straeon rhyngweithiol, croeswch gleddyfau gyda Chapten Jac, hyfforddwch fel môr-leidr ac efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i drysor yn ein Helfa Drysor! Bydd yna hefyd weithgareddau panio aur, crefftau môr-ladron, cartwnau herfeiddiol yn sinema leiaf Cymru, sef sinema La Charrette, cwis môr-ladron a llawer mwy… Dewch yn llu i’r digwyddiad cyffrous hwn! Codir tâl mynediad.
Gweler y wefan am fwy o fanylion.
Ffôn: 01792 371206