fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Dewch i fwynhau’r gwanwyn a siopa gyda chydwybod glir y mis Ebrill hwn yn nigwyddiad ‘Worth the Weight’.

Bydd ‘Worth the Weight’ yn ymweld â Neuadd Brangwyn, Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill gyda naw tunnell o stoc dillad ddoe ail law a ddewiswyd â llaw i chwilio drwyddynt, gan gynnwys amrywiaeth o haenau ysgafn er mwyn eich galluogi i ddilyn y tueddiadau diweddaraf y gwanwyn hwn.

Byddwn hefyd yn capio prisiau eitemau trymach i £20. Hyd yn oed os yw’n pwyso mwy na chilogram, fyddwch chi byth yn talu mwy na £20 am 1 eitem! Sicrhewch eich bod yn dangos yr eitemau trwm i’ch gweinydd wrth y til er mwyn hawlio’r disgownt.

Bydd 60 o rheiliau o ddillad, lle gall siopwyr ddewis cymysgedd o’r denim, dillad chwaraeon, ffasiwn i fenywod, ffasiwn i ddynion, dillad uchaf ac ategolion gorau a thalu wrth y glorian ar y diwedd. Y gost yw £20 y cilogram, ac mae prisiau’n dechrau o £1. Mae’n ffordd cost-effeithiol o brynu llawer o ddarnau dillad cynaliadwy a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.

Sefydlwyd Worth the Weight yn Sheffield yn 2018 fel ffordd o frwydro yn erbyn ffasiwn cyflym. Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r cwmni wedi gwefreiddio’r DU wrth iddo deithio ar draws y wlad gyda llwyth o stoc o hen ddillad gwych bob penwythnos.

Meddai Chris Davies, trefnydd ‘Worth the Weight’, “Rydym wedi sylwi bod demograffig siopwyr y digwyddiadau wedi newid, mae ein digwyddiadau wedi dod â theuluoedd o bob oedran at ei gilydd er mwyn helpu i gefnogi’r diwydiant dillad cynaliadwy.”

Bydd ‘Worth the Weight’ yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill rhwng 11am a 5pm. Codir ffï o £3 ar gyfer mynediad cynnar a £2 ar gyfer mynediad arferol. I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, ewch i dudalen digwyddiadau ‘Worth the Weight’ yn kilosale.eventbrite.co.uk/

11am a 5pm. Ceir mynediad am £3 gyda’r cynnig cynnar a £2 ar ôl hynny.

Rhagor o wybodaeth

Dyddiad
06 EBR 2024
Lleoliad
Neuadd Brangwyn