fbpx

Worth the Weight Vintage Kilo Sale yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn ddydd Sadwrn 20 Gorfennaf gyda naw tunnell o stoc sy’n cynnwys hen ddillad a dillad ail law i chi chwilota drwyddynt, gan gynnwys amrywiaeth o gotiau a siacedi hydrefol i’ch cadw’n gynnes y tymor hwn.

Worth the Weight Vintage Kilo Sale hefyd yn capio prisiau eitemau trymach i £20. Hyd yn oed os yw’n pwyso mwy na chilogram, fyddwch chi byth yn talu mwy na £20 am 1 eitem! Sicrhewch eich bod yn dangos yr eitemau trwm i’ch gweinydd wrth y til er mwyn hawlio’r disgownt.

Bydd 60 o rheiliau o ddillad, lle gall siopwyr ddewis cymysgedd o’r denim, dillad chwaraeon, ffasiwn i fenywod, ffasiwn i ddynion, dillad uchaf ac ategolion gorau a thalu wrth y glorian ar y diwedd. Y gost yw £20 y cilogram, ac mae prisiau’n dechrau o £1. Mae’n ffordd cost-effeithiol o brynu llawer o ddarnau dillad cynaliadwy a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.

Sefydlwyd Worth the Weight yn Sheffield yn 2018 fel ffordd o frwydro yn erbyn ffasiwn cyflym. Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r cwmni wedi gwefreiddio’r DU wrth iddo deithio ar draws y wlad gyda llwyth o stoc o hen ddillad gwych bob penwythnos.

Meddai Chris Davies, trefnwr Worth the Weight, “Mae Abertawe’n lle gwych i ddod yr adeg hon o’r flwyddyn, ac mae gweuwaith bob tro’n boblogaidd iawn, felly rydym wedi gwneud yn siŵr bod digon o stoc ar gyfer ein harloeswyr ffasiwn cynaliadwy.”

Bydd Worth the Weight yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn ddydd Sadwrn 20 Gorfennaf rhwng 11am a 5pm. Ceir mynediad am £3 gyda’r cynnig cynnar a £2 ar ôl hynny.

Am ragor o fanylion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, dilynwch dudalen swyddogol Worth the Weight ar Facebook yn https://www.facebook.com/worththeweightvintage/

 

Gweld digwyddiadau eraill Neuadd Brangwyn yma

 

Dyddiad
20 GOR 2024
Lleoliad
Neuadd Brangwyn
Visit website

20 GOR 2024

Worth the Weight Vintage Kilo Sale

11:00am - 17:00pm