fbpx

Mae’r sioe ‘What’s Love Got to do With it?’ a fu’n llwyddiant rhyngwladol yn ei hôl!

Mae ‘What’s Love Got to do With it?’ a gyflwynir i chi gan y cynhyrchwyr arobryn a fu’n gyfrifol am ‘Whitney; Queen of the Night’, yn talu teyrnged i un o artistiaid cerddorol mwyaf eiconig a phoblogaidd yr 20fed ganrif, yr enwog Tina Turner.

Yn y sioe fyw gyffrous hon, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson llawn egni a roc a rôl hwyliog gyda chaneuon mwyaf poblogaidd Tina’n cael eu perfformio gan gantorion anhygoel i gyfeiliant band byw llawn.

Cafodd Tina Turner yrfa syfrdanol a rychwantodd dros 50 mlynedd,ac yn y sioe hon gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at glywed trefniadau cerddorol trawiadol o’i chlasuron mwyaf poblogaidd gan gynnwys Private Dancer, What’s Love Got To Do With It?, Proud Mary, River Deep, Nutbush City Limits, Simply The Best a llawer mwy. Mae’r profiad cerddorol hwn na ddylid ei golli yn ddathliad trawiadol o fywyd a cherddoriaeth un o gantorion benywaidd pennaf ein hoes.

Dechreuodd taith gyntaf enfawr ‘What’s Love Got to do With it?’ ym mis Chwefror 2019 gan ddod yn gyflym yn un o’r sioeau teyrnged pennaf gyda chynulleidfaoedd yn llenwi theatrau ac arenau ledled y DU ac Ewrop.

Cyflwynir ‘What’s Love Got to do With it?’ gan yr hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw Cuffe and Taylor ar y cyd â Paul Roberts Productions.

Sylwer mai cynhyrchiad teyrnged yw hwn ac nid yw wedi’i gymeradwyo gan nac yn gysylltiedig ag Ystâd Tina Turner.

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
01 MEH 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
23.00
Archebwch docynnau