gan Joe Orton. Wedi’i chyfarwyddo gan Michael Cabot
Yn ei glinig seiciatrig preifat, mae Dr Prentice yn cyfweld ag ysgrifennydd newydd. Mae Geraldine yn gobeithio cael y swydd, ond nid oes ganddi ddigon o brofiad, ac nid yw’n sicr o ran pwy yw ei rhieni go iawn. Mae Mrs Prentice yn ymddangos heb rybudd ac mewn angen brys am ddiod, yn dilyn ymweliad cyfrinachol â Gwesty’r Orsaf. Yn y cyfamser, mae Dr Rance, arolygydd y llywodraeth a Sarsiant Match, heddwas, yn cyrraedd yng nghanol yr holl helynt gynyddol, gyda’u cwestiynau treiddgar eu hunain.
Cafodd Joe Orton ei eni yng Nghaerlŷr ym 1933. Yn ystod ei yrfa fer, ddisglair, llwyddodd i syfrdanu, brawychu a swyno cynulleidfaoedd gyda’i gomedïau duon, gan gynnwys Loot ac Entertaining Mr Sloane.
Mae’n cynnwys iaith gref. Arweiniad oed: 14+