The Ultimate Little Mix Party!
Os ydych chi’n hoff o Little Mix, byddwch chi’n dwlu ar y sioe hon! Yn cynnwys pedair cantores a dawnsiwr anhygoel sy’n cyflwyno caneuon a symudiadau dawns un o fandiau merched mwyaf poblogaidd y DU.
Daeth Little Mix yn enwog ar ôl ennill The X Factor yn 2011, ac mae’r band wedi rhyddhau 5 albwm a sawl cân boblogaidd ers hynny, gan gynnwys pedair a gyrhaeddodd rhif 1 yn y siartiau.
Mae We Love Little Mix yn cynnwys canu byw, gwisgoedd trawiadol a sioe goleuadau a fideos syfrdanol. Mae’r sioe hon sy’n llawn egni o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys eich hoff ganeuon Little Mix fel DNA, Wings, Salute, Black Magic, Love Me Like You, Secret Love Song, Shoutout to my Ex, No More Sad Songs a llawer mwy.