fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mike Paul-Smith Arweinydd

Hannah Castleman, Lydia Bell & Marvin Muoneké

Mae cerddorfa 30 offeryn Down for the Count a lleisyddion yn cyflwyno “taith sonig yn ôl i seiniau Capitol Studios yn y 1950au” (cylchgrawn DownBeat) wrth iddynt chwarae clasuron diamser o The Great American Songbook.

Trawsnewidiwyd celfyddyd caneuon poblogaidd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif gan gyfansoddwyr fel George Gershwin, Cole Porter, Hoagy Carmichael ac Irving Berlin, gan ddarparu’r deunydd a fyddai’n arwain artistiaid fel Frank Sinatra, Nat ‘King’ Cole, Ella Fitzgerald, Peggy Lee, Judy Garland a llawer mwy i enwogrwydd rhyngwladol.

Daw cerddoriaeth rhai o’r artistiaid a’r cyfansoddwyr mawr hyn yn fyw gyda The Down for the Count Orchestra, gyda rhai o gerddorion a threfnwyr jazz pennaf y DU, dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd, Mike Paul-Smith. Mae’r gerddorfa’n cadw ac yn diogelu treftadaeth gerddorol y caneuon bythgofiadwy hyn, wrth edrych i’r dyfodol drwy gyflwyno trefniannau gwreiddiol o ganeuon tra nodweddiadol a ysgrifennwyd gan aelodau’r gerddorfa.

Gallwch ddisgwyl clywed caneuon ysgubol fel I’ve Got You Under My Skin (Cole Porter/Frank Sinatra), Stardust (Hoagy Carmichael/Nat ‘King’ Cole), ‘S Wonderful (George Gershwin/Ella Fitzgerald) a llawer mwy mewn dathliad llawen o rywfaint o gerddoriaeth orau’r 20fed ganrif.

“Rhyfeddol!!!” Michael Bublé

“Taith sonig un ôl i seiniau Capitol Studios yn y 1950au” Cylchgrawn DownBeat

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • I’ve Got You Under My Skin
  • ‘S Wonderful
  • Stardust
  • The Nearness Of You
  • Zing! Went The Strings Of My Heart
  • Nature Boy
  • a llawer mwy
Dyddiad
03 Mai 2023
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
29.00