I ddathlu lansiad Marchnad Nadolig Abertawe a Marchnad Abertawe yn agor bob dydd tan y Nadolig, rydym yn cydweithio â Marchnad Abertawe i ddod â diwrnod llawn cyffro’r Nadolig i ganol y ddinas!
Cynhelir adloniant byw a pherfformiadau stryd ym Marchnad y Nadolig Abertawe ac ym Marchnad Abertawe, a bydd gwesteion arbennig hefyd.
Ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.