Ymunwch â Pluck and Squeeze yn Jam Jar am noson o ddawnsio gyda cherddoriaeth werin Gymreig yn nigwyddiad Twmpath Croeso.
Digwyddiad dawnsio gwerin yw twmpath, sy’n debyg i ceilidh Gwyddelig, gyda cherddoriaeth werin draddodiadol fel jigiau a rîliau. Roedd twmpathau’n arfer bod yn ddigwyddiad rheolaidd mewn neuaddau pentref ledled Cymru, a byddai’r holl gymuned yn dod at ei gilydd i ddawnsio.
Bydd Pluck and Squeeze, sy’n cynnwys acordion, ffidil, gitâr bas a gitâr, yn canu caneuon bywiog a fydd yn sicr o’ch diddanu a’ch temtio i ddawnsio.