fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Date: 20/05/2018
Time: 4:45 pm

Location: Abertawe Canol y Ddinas

Treiathlon anghyffredin!

Mae Activity Wales Events wedi gweithio’n ddiflino gyda Chyngor Abertawe i ddod â threiathlon canol dinas cyntaf Cymru i chi. Bydd Treiathlon Abertawe’n gorffen yng nghanol y ddinas yn Sgwâr y Castell.

Bydd y treiathlon yn cynnwys dŵr agored diogel ac amgaeedig ar gyfer y ras nofio 750m a bydd ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer y ras feiciau 20km a’r ras redeg 5k, yng nghanol y ddinas.

Ac yn fwy na hynny, cynhelir y ras am 4pm i sicrhau bod cynifer â phosib o bobl leol yn bresennol, ac y daw athletwyr wyneb yn wyneb â’r torfeydd brwdfrydig Cymreig a welwyd hefyd yn y Penwythnos Llwybr Hir.

Bydd Treiathlon Abertawe yn ras pellter gwib, gyda rhedwyr profiadol, grwpiau oed, rhai sy’n rasio am y tro cyntaf a sawl ton gan gynnwys ras plant a rhieni.
Ffi gofrestru o £59

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i’r wefan yn www.swanseatriathlon.com

Dyddiad
20 Mai 2018
Lleoliad
Abertawe Canol y Ddinas