fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd prosiect The World Reimagined yn trawsnewid strydoedd canol y ddinas gyda’i lwybr am ddim o gerfluniau glôb. Caiff pob un ei ddylunio gan artist unigol.

Diben y prosiect yw trawsnewid y ffordd rydym yn deall y Gaethfasnach Drawsatlantig a’i heffaith ar bob un ohonom.

Bydd y llwybr yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd â llwybrau mewn chwe dinas arall yn y DU, wrth i The World Reimagined wahodd pobl i gydnabod yr hanes hwn, a chefnogi gwaith gweithredwyr a sefydliadau cymunedol gwych.

Bydd y globau’n dod â phobl, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i siarad am sut rydym yn deall ein hanes, sut mae ein gorffennol yn llunio ein dyfodol a sut gallwn weithredu dros newid cymdeithasol.

Roedd digwyddiad lansio 10 Awst yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a gallwch ddilyn y llwybr yn y lleoliadau canlynol hyd at 31 Hydref.

Dysgwch ragor am yr artistiaid yma. www.theworldreimagined.org/swansea

 

LLEOLIAD THEMA ARTIST TEITL NODDWR
Oriel Gelf Glyn Vivian Cymuned Abertawe Kyle Legall Upside-Down World Sky
Castell Abertawe Y Fam Affrica Mfikela Jean Samuel Glory Of Mama Africa Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Canolfan Dylan Thomas Y Realiti o Fod yn Gaethwas Laura Bolton Anchored In History (Glimmer Of Light) Gwesty Morgans Abertawe
Sgwâr Dylan Thomas Etifeddiaeth wedi’i Dwyn: Adfywiad Cenedl Abbi Bayliss Bruised Showers Prifysgol Abertawe
Arena Abertawe Dileu a Rhyddfreinio GE When Colours Collide The World Reimagined
Sgwâr Dewi Sant Triongl Cymhleth Hazel Blue The Truth Will Out BID Abertawe
Canolfan Siopa’r Cwadrant Adleisiau yn y Presennol Joshua Donkor Ancestral Foundations Bloomberg
Nelson Street Codwn Eto Fyth Joanna Cohn The Butterfly Effect Morganstone
Princess Way Ysbryd Ymledol Carol Sorhaindo Economic Biosphere Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Grove Place Ailddychmygu’r Dyfodol Parys Gardener Her Stories Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dyddiad
10 AWS - 31 HYD
Lleoliad
Various
Visit website