fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Cliciwch eich sodlau, curwch eich dwylo a mwynhewch antur dros yr enfys, gan ein bod ar y ffordd i weld… The Wizard of Oz yn Theatr y Grand Abertawe. Yn cynnwys y cymeriad teledu enwog i blant, Dani Harmer o raglen The Story of Tracy Beaker CBBC yn chwarae rhan y ddewines dda Glinda, Ceri Dupree o Abertawe yn chwarae rhan Gwrach Ddrwg y Gorllewin a Stefan Pejic yn chwarae rhan Dewin Oz.

Mae Dorothy Gale a’i chi bach Toto yn mynd i drafferth byth a beunydd ar y fferm yn Kansas. Ochr yn ochr â’i modryb Em, ei hewythr Henry, a thri gwas ffarm anlwcus sy’n ffrindiau iddi, mae hi’n breuddwydio am deithio i le ble mae gofidiau’n diflannu dros yr enfys. Gwireddir ei dymuniad diolch i drowynt dinistriol sy’n ei chludo’n bell i ffwrdd i wlad hudol Oz, lle mae’r ddewines dda Glinda yn ei hanfon i lawr yr heol brics melyn i’r Ddinas Emrallt. Ond mae Gwrach Ddrwg y Gorllewin yn dynn ar ei sodlau rhuddem, ac mae hi’n benderfynol o gipio’r deyrnas liwgar. Gyda help bwgan brain, dyn tun a llew llwfr,, a fydd gan Dorothy ddigon yn ei phen, ynghyd â’r ewyllys a’r dewrder i achub Oz gyfan a dod o hyd i’w ffordd adref? Rhagor o wybodaeth am yr antur gyffrous hon!

Mae’r antur gyffrous hon i’r teulu yn cynnwys golygfeydd hardd, gwisgoedd lliwgar, band byw, symudiadau dawns disglair, comedi hynod ddoniol a chaneuon i gyd-ganu â nhw.

Archebwch Docynnau 

Dyddiad
04-06 EBR
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
22.50