Cewch fynd ar daith roc glasurol llawn hwyl a hiraeth, a mwynhau cân ar ôl cân, a berfformir yn fyw gyda chywirdeb trawiadol ac egni mawr. Bydd sioe oleuadau a thafluniadau anhygoel hefyd, a fydd yn siŵr o’ch ysgogi i ddawnsio drwy’r nos.
Cewch glywed dros ddwy awr o anthemau roc clasurol gan artistiaid fel Eric Clapton, Led Zeppelin, Queen, Pink Floyd, Deep Purple, Free, The Eagles a Jimi Hendrix, i enwi rhai yn unig!