fbpx

Mae TigerFace, sy’n perfformio ar lwyfan lliwgar llawn pypedau, balwnau a bagiau baw cŵn, yn ceisio peidio â bod yn oedolyn sinigaidd wrth iddo ail-greu pennod olaf erioed hen raglen deledu o’i blentyndod.

Bydd cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y perfformiad gwirion hwn sy’n cynnwys elfennau truenus yn ogystal ag elfennau llawen. Mae The TigerFace Show yn berfformiad comedi gwych sy’n gofyn i ni ailfeddwl yr hyn yr oeddem am ei fod ar ôl i ni dyfu i fyny, yn y gobaith o ddod o hyd i ychydig o lawenydd diniwed yn ein bywydau fel oedolion! Bydd pob aelod o’r gynulleidfa’n derbyn Piña Colada AM DDIM!* *Does dim Piña Colada AM DDIM.

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
18 EBR 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
12.50