Drama gerddorol a addaswyd ac a gyfarwyddwyd gan David Wood
Yn seiliedig ar y llyfr gan Judith Kerr
Yn syth o’r West End, mae’r sioe hynod boblogaidd hon a enwebwyd ar gyfer Gwobr Olivier, The Tiger Who Came to Tea, ar daith unwaith eto.
Mae cloch y drws yn canu wrth i Sophie a’i mam eistedd i lawr i gael te. Pwy allai fod yno? Dydyn nhw’n bendant ddim yn disgwyl gweld teigr mawr, streipiog wrth y drws!
Ymunwch â’r teigr sy’n hoff iawn o yfed te yn y sioe wych hon i deuluoedd sy’n llawn hud, caneuon y gallwch ganu ar y cyd â nhw ac anhrefn llwyr. Peidiwch â cholli’r addasiad gwych hwn o’r stori glasurol hon sy’n llawn gwallgofrwydd… byddwch yn barod i gael eich synnu!